Tân mewn eiddo ym Mhenrhyndeudraeth
PostiwydGalwyd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i dân mewn eiddo yn Rhes Gwilym, Penrhyndeudraeth am 9.44am fore heddiw (dydd Gwener 13eg Ionawr).
Anfonwyd dau beiriant i’r digwyddiad a defnyddiwyd offer anadlu a chwistrellwyr dŵr i ddelio gyda’r tân.
Yn drist, bu farw gŵr yn y digwyddiad.
Mae cyd-archwiliad gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru nawr ar y gweill.
Nid oes mwy o fanylion ar gael ar hyn o bryd.