Dihangfa lwcus o dân i gwpl o Ynys Môn
PostiwydCafodd dyn a dynes ddihangfa lwcus yn dilyn tân yn eu cartref yn Ynys Môn yn ystod oriau man y bore yma.
Fe anfonwyd dau beiriant o Amlwch i’r digwyddiad yn Brickpool, Amlwch am 04.10 o’r gloch ddydd Iau (19eg Ionawr). Roedd y tân dan reolaeth erbyn 05.20 o’r gloch.
Cafodd dyn 75 mlwydd oed a dynes 65 mlwydd oed driniaeth oherwydd eu bod wedi anadlu mwg yn ystod y digwyddiad.
Credir bod y tân wedi ei achosi gan ddadleithydd a oedd wedi gorboethi ar ôl cael ei adael ymlaen am gyfnod hir.
Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân ddau set o offer anadlu, pibell dro a chamera delweddu thermol i daclo’r tan a oedd wedi ei gyfyngu i’r ystafell haul.
Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Roedd y trigolion yma’n lwcus iawn eu bod wedi llwyddo i fynd allan yn ddianaf – er eu bod wedi cael eu cludo i’r ysbyty am driniaeth.
“Doedd dim larymau mwg gweithredol yn yr eiddo – fe seiniodd y synhwyrydd carbon monocsid rybudd ond mae’n bwysig gosod y synhwyrydd cywir. Byddai synhwyrydd mwg wedi seinio rhybudd yn gynharach.
“Mae’n hanfodol eich bod yn barod rhag ofn i’r gwaethaf ddigwydd. Fe all larwm mwg gweithredol roi cyfle i chi fynd allan, aros allan a galw 999.Cadwch eich hun a’ch hanwyliaid yn ddiogel drwy brofi’ch larwm mwg yn rheolaidd a chynllunio ac ymarfer eich cynllun dianc.
“Mae’r digwyddiad hefyd yn amlygu peryglon camddefnyddio cyfarpar trydan – dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr; mae cyfarpar yn gallu gorboethi’n hawdd iawn oni bai eich bod yn cymryd gofal.”
Dyma air i gall ar ddiogelwch trydan:
● Cadwch gyfarpar trydanol yn lân ac mewn cyflwr gweithredol da a’u cynnal a’u cadw’n rheolaidd
● Peidiwch byth â phrynu cyfarpar trydanol heb wybod a ydynt yn ddiogel i’w defnyddio
● Genwch yn siŵr bod Marc Diogelwch Prydeinig ar gyfarpar newydd
● Peidiwch byth â gadael cyfarpar trydanol yn y modd segur, oni bai eu bod wedi eu dylunio i gael eu gadael ymlaen (er enghraifft oergelloedd a rhewgelloedd).
● Peidiwch â gorlwytho socedi trydanol – defnyddiwch un plwg yn unig ymhob soced
- Defnyddiwch addasydd ffiws treuliedig ‘math bar’, yn hytrach nag addasydd bloc
Gwnewch yn siŵr nad ydy ampau’r holl blygiau yn yr addasydd yn uwch na 13 amp (neu 3000 wat o bŵer)
Peidiwch â phlygio addasydd i mewn i addasydd arall – defnyddiwch un addasydd yn unig ymhob soced
Gwiriwch lidiau trydanol rhag ofn eu bod wedi gwisgo neu dreulio neu rhag ofn bod nam ar y gwifrau.
● Gwnewch yn siŵr bod systemau trydanol yn cael eu gwirio gan drydanwr cymwys a chofrestredig o leiaf unwaith bob 10 mlynedd
● Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio Dyfais Cerrynt Gweddilliol gydag offer garddio i’ch amddiffyn rhag sioc drydanol
Am gyngor pellach ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk