Tân ym Mhrestatyn
PostiwydCafodd diffoddwyr tân o Brestatyn a’r Rhyl eu galw i dân mewn eiddo ar Victoria Road, Prestatyn am 00.51 o’r gloch Ddydd Mercher 4ydd Ionawr 2017.
Roedd y tân wedi ei achosi gan wefrwr ffôn a oedd wedi gorboethi ac o ganlyniad fe achoswyd difrod tân i’r gwefrwr a’r carped yn ogystal â difrod mwg sylweddol ar lawr cyntaf yr eiddo.
Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: “Nid oedd y gwefrwr dan sylw yn wefrwr dilys. Ein cyngor yw prynu gwefrwyr o siopau dibynadwy. Dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr bob amser, diffoddwch hwy a thynnwch y plwg cyn mynd i’r gwely. Peidiwch byth â gadael pethau’n gwefru heb neb i gadw llygaid arnynt am gyfnod hir.
“Fe ddylech bob amser wefru’ch ffôn ar arwynebedd caled. Peidiwch â’i wefru ar ddillad gwely neu ar arwynebedd hylosg.
“Mae larymau mwg yn rhoi rhybudd cynnar o dân er mwyn rhoi cyfle i chi fynd allan o’r eiddo a galw’r gwasanaeth tân ac achub. Gwnewch yn siŵr bod gennych larwm mwg a phrofwch eich larwm unwaith yr wythnos.”
Dyma ddolen i fideo sy’n dangos pa mor gyflym y mae tân yn gallu lledaenu mewn ystafell wely o ganlyniad i wefru ffôn symudol- https://www.youtube.com/watch?v=CgCaZEH35ys&t=12s