Tân yng Nghefn Mawr
PostiwydMae diffoddwyr tân yn rhybuddio trigolion ynghylch peryglon tân gwyllt yn dilyn tân yng Nghefn Mawr y bore yma (Dydd Llun 23ain Hydref).
Fe aeth diffoddwyr tân o Langollen a Wrecsam at y digwyddiad yn Heol y Plas, Cefn Mawr, Wrecsam am 8.21am.
Roedd dyn a dynes, ynghyd â thri o blant 8, 4 ac 1 mlwydd oed yn yr eiddo ar adeg y tân ond llwyddodd pawb i fynd allan yn ddianaf.
Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân bedair set o offer anadlu, dwy bibell dro a chamerâu delweddu thermol i ddelio gyda’r tân a oedd wedi ei gyfyngu i’r gegin.
Sefydlwyd bod y tân wedi ei achosi gan dân gwyllt a oedd wedi cael ei gynnau yn yr eiddo gan ddinistrio’r gegin yn gyfan gwbl ac achosi dirfod mwg i weddill y llawr gwaelod a rhywfaint o ddifrod mwg i’r llawr cyntaf.
Meddai Jess Smith, y preswylydd: “Rydym ni’n ffodus iawn ein bod ni wedi llwyddo i fynd allan o’r eiddo yn ddianaf ac rwy’n cynghori pawb i beidio â chadw tân gwyllt yn y tŷ.
“Plîs peidiwch â meddwl na wnaiff y math yma o ddigwyddiad ddigwydd i chi, achos fe all ddigwydd i unrhyw un yn hawdd iawn. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi addysgu’ch plant am beryglon tân gwyllt. Mewn munud roedd y tân gwyllt wedi ei gynnau a’r gegin wedi ei dinistrio’n llwyr.
Meddai Tim Owen, o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae’r digwyddiad hwn yn amlygu peryglon camddefnyddio tân gwyllt. Roedd y tân gwyllt yn hawdd i’w gyrraedd a chafodd ei danio gan blentyn ifanc. Ein neges yw cadwch dân gwyllt mewn bocs caeedig ymhell o gyrraedd plant yn ogystal â thanwyr a matsis. Mae’r teulu yma’n lwcus iawn na chafodd unrhyw un ei anafu.
“Mae diogelwch ar yr adeg yma o’r flwyddyn yn gyfrifoldeb i bawb. Ni allwn bwysleisio digon mai’r ffordd orau i leihau anafiadau yn ystod y cyfnod tân gwyllt ydi mynd i noson gymunedol. Maent yn arddangosfeydd diogel gyda chyfleusterau da ac maent yn cynnig gwerth gorau am arian. Yn aml iawn mae dathliadau tân gwyllt yn achosi pryder i bob hŷn a pherchnogion anifeiliaid anwes, ac felly drwy fynd i ddigwyddiadau cymunedol gallwch leihau’r gofid hwn.
“Ewch i’n gwefan neu dudalennau Facebook neu twitter i weld rhestr o’r arddangosfeydd sydd wedi eu trefnu yng Ngogledd Cymru.
“Os oes raid i chi ddefnyddio tân gwyllt eich hun, dilynwch y rheolau tân gwyllt.
Y Rheolau Tân Gwyllt
- Prynwch dân gwyllt sydd â BS 7114 arnynt yn unig.
- Peidiwch ag yfed alcohol os byddwch chi'n cynnau tân gwyllt.
- Cadwch y tân gwyllt mewn bocs a chaead arno.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau sydd ar bob tân gwyllt.
- Taniwch nhw hyd braich i ffwrdd, gan ddefnyddio tapr.
- Sefwch yn ddigon pell yn ôl.
- Peidiwch byth â mynd yn agos at dân gwyllt sydd wedi’i gynnau. Hyd yn oed os nad ydi o wedi tanio, mae'n dal yn bosib iddo ffrwydro.
- Peidiwch byth â rhoi tân gwyllt yn eich poced, na'i daflu.
- Dylid goruchwylio plant os ydynt yn agos at dân gwyllt.
- Taniwch ffyn gwreichion un ar y tro, a gwisgwch fenig.
- Peidiwch byth â rhoi ffyn gwreichion i blant dan bum mlwydd oed.
- Cadwch anifeiliaid anwes yn y tŷ.