Y Gwasanaeth yn helpu i godi arian ar gyfer diffibriliwr lleol yn Wrecsam
PostiwydYn ddiweddar fe helpodd staff Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i godi arian i brynu diffibriliwr i’r gymuned leol.
Mae triniaeth gyflym yn hanfodol yn achos pobl sydd wedi dioddef ataliad ar y galon ac felly fe all diffibriliwr olygu’r gwahaniaeth rhwng byw neu farw.
Mae Neil Upton, Rheolwr Criw Gwylfa Las, Wrecsam, yn egluro:
“Gofynnodd perchennog siop trin gwallt Toppers, Ffordd Gladwyn, Wrecsam a fyddai modd i’r Gwasanaeth helpu i godi arian i brynu diffibriliwr i’w ddefnyddio yn yr ardal leol.
“Awgrymais ymweliad a thaith dywys o gwmpas Canolfan Adnoddau Ambiwlans a Thân Wrecsam (AFCRS) fel rhan o raffl, a chafodd hyn ei groesawu’n fawr.
“Llwyddodd yr holl weithgareddau gan gynnwys y raffl i godi bron i £1700. Defnyddiwyd yr arian o’r gronfa hon i brynu diffibriliwr gan y sefydliad Calonnau Cymru.
“Fe wnaeth y ddynes a enillodd yr ymweliad i’r AFSRC yn y raffl roi’r wobr i’w ŵyr 8 mlwydd oed ac fe wnaeth y darpar ddiffoddwr tân yma fwynhau ei ymweliad yn fawr.
“Roedd cefnogi’r apêl yma’n gyfle da i’r Gwasanaeth gysylltu gyda’r gymuned leol a defnyddio’i enw da, ei adnoddau a’i safle mewn cymdeithas i helpu’r gymuned.”
Mae diffibriliwyr achub bywydau hefyd wedi eu gosod mewn gorsafoedd tân ledled Gogledd Cymru.
Cawsant eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac maent wedi eu lleoli mewn man amlwg y tu allan i safleoedd y gwasanaeth tân er mwyn i’r cyhoedd gael eu defnyddio ar unwaith.
I gael manylion ei diffibriliwr lleol, ewch i wefan Galw Iechyd Cymru neu cliciwch yma.