Y Gwasanaeth yn gweithio gyda phartneriaid i ddelio gyda llifogydd
PostiwydDerbyniodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru tua 250 o alwadau neithiwr ac mae wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i helpu trigolion ac eiddo a gafodd eu heffeithio gan y tywydd garw.
Roedd yr ardaloedd a ddioddefodd waethaf yn cynnwys Biwmares, Llangefni, Porthaethwy, Rhosneigr, Bangor, Caernarfon a Phwllheli.
Mae criwiau yn dal i fod yn bresennol yng nghastell Biwmares yn pwmpio dŵr er bod y llifddwr wedi gostegu.
Roedd y digwyddiadau’n cynnwys dŵr yn mynd i mewn i gartrefi a cherbydau a oedd wedi cael eu dal mewn llifddwr.
Pan fydd rhybuddion llifogydd mewn grym, cynghorir trigolion i edrych ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru www.cyfoethnaturiolcymru.org.uk am gyngor ynglŷn â beth i’w wneud, cyn, yn ystod a wedi llifogydd, neu ddilyn @NatResWales i gael yr wybodaeth a’r rhybuddion diweddaraf.
Cynghorir y cyhoedd i aros ymhell o gyrsiau dŵr cyflym a pheidio â gyrru trwy lifddwr.