Aros yn ddiogel ar noson tân gwyllt eleni
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn apelio i bobl ifanc i osgoi anaf difrifol neu hyd yn oed farwolaeth wrth chwarae gyda thân gwyllt a goleuo coelcerthi.
Gyda llai nag wythnos i fynd cyn noson tân gwyllt, mae’r gwasanaeth tân ac achub yn annog y cyhoedd yng Ngogledd Cymru i fod yn ofalus gyda thân gwyllt ac i fynychu arddangosfa wedi’i threfnu.
Meddai Kevin Roberts, Uwch Swyddog Diogelwch Tân: "Mae diogelwch ar yr adeg hon o’r flwyddyn yn gyfrifoldeb i bawb. Ni fedrwn orbwysleisio mai’r ffordd orau o leihau nifer yr anafiadau wrth ddathlu yw mynychu digwyddiadau wedi’i trefnu. Dyma’r peth mwyaf diogel, mae’r cyfleusterau gorau yno ac maent yn cynnig y gwerth gorau am arian. Mae dathliadau tân gwyllt yn achosi cynnydd mewn pryderon i bobl hŷn a rhai sydd ag anifeiliaid anwes, felly mae mynd i ddigwyddiadau cymunedol yn helpu i leihau’r pryderon hyn.
“Ewch i’n gwefan, tudalen Facebook neu twitter i gael rhestr o ddigwyddiadau wedi eu trefnu ledled Gogledd Cymru.
"Os ydych yn mynnu defnyddio tân gwyllt eich hun, dilynwch y cod diogelwch ar gyfer tân gwyllt."
Cod Diogelwch Tân Gwyllt
- Prynwch dân gwyllt wedi eu marcio CE yn unig.
- Peidiwch ag yfed alcohol os ydych am danio tân gwyllt.
- Cadwch dân gwyllt mewn blwch wedi ei gau.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau ar gyfer pob eitem.
- Goleuwch nhw hyd braich, gan ddefnyddio tapr.
- Sefwch yn ôl.
- Peidiwch byth â mynd yn agos at dân gwyllt sydd wedi ei oleuo. Hyd yn oed os nad yw wedi tanio, gall ffrwydro o hyd.
- Peidiwch byth â rhoi tân gwyllt yn eich poced, neu eu taflu.
- Dylech oruchwylio plant bob amser o gwmpas tân gwyllt.
- Goleuwch ffyn gwreichion fesul un, a gwisgwch fenyg.
- Peidiwch byth â rhoi ffyn gwreichion i blant dan bump oed.
- Cadwch anifeiliaid anwes yn y tŷ.
"Os ydych chi’n bwriadu cael coelcerth, hysbyswch Ystafel Reoli Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru trwy ffonio 01931 522 006."
Os ydych chi’n ymwybodol bod pobl yn camddefnyddio tân gwyllt i beri difrod i eiddo neu achosi anaf, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101, neu mewn argyfwng, ffoniwch 999.