Dihangfa lwcus i gwpl o dân mewn fflat heb larymau mwg gweithredol yn y Fflint
PostiwydCafodd dyn a dynes yn eu 60au ddihangfa lwcus o dân yn eu fflat yn y Fflint y bore yma.
Galwyd dwy injan o Lannau Dyfrdwy a’r Fflint i’r digwyddiad yn Chester Street, y Fflint am 08.18 o’r gloch (Dydd Iau 14 Rhagfyr). Daethpwyd â’r tân dan reolaeth erbyn 08.56 o’r gloch.
Credir bod y tân wedi cychwyn mewn gwresogydd troch ac roedd wedi ei gyfyngu i’r ystafell ymolchi.
Nid oedd larymau mwg gweithredol yn yr eiddo, er bod y gwasanaeth tân ac achub wedi gosod larymau yno yn y gorffennol.
Aelod o staff o’r siop o dan y fflat, dyn yn eu 20au, a seiniodd y rhybudd. Sylwodd bod dŵr yn gollwng drwy nenfwd y siop ac aeth i ymchwilio a darganfod y tân.
Meddai Kevin Roberts, Uwch Reolwr Diogelwch Tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Derbyniodd y cwpl driniaeth ocsigen yn y fan a’r lle ac maent yn lwcus iawn eu bod wedi llwyddo i ddianc yn ddianaf – fe allai’r tân yma fod wedi parhau i losgi heb i neb sylwi arno ac arwain at anafiadau difrifol neu hyd yn oed farwolaethau.
“Mae’n hanfodol eich bod yn paratoi rhag ofn i’r gwaethaf ddigwydd – gwnewch yn siŵr bod gennych larwm mwg a pheidiwch ag ymyrryd ag ef. Os nad ydyw’n gweithio cysylltwch â ni fel y gallwn eich helpu.
“Fe all larwm mwg gweithredol roi cyfle i chi fynd allan, aros allan a galw 999. Cadwch eich hun a’ch anwyliaid yn ddiogel trwy brofi’ch larwm mwg yn rheolaidd ac ymarfer eich cynllun dianc.”
Am ragor o wybodaeth ewch i www.gwasan-gogcymru.org.uk