Digwyddiad yng Nghanolfan Hamdden Llangefni
Postiwyd
Mae’r gwasanaethau brys wedi cael eu galw i ddigwyddiad mewn canolfan hamdden yn Llangefni, Ynys Môn.
Fe anfonodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru injan dân o Langefni i Ganolfan Hamdden Plas Arthur am 10.57 o’r gloch y bore yma (dydd Mercher 8fed Chwefror).
Roedd staff o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru hefyd yn bresennol.
Roedd grŵp o blant ysgol wedi mynd yn wael wrth nofio yn y pwll nofio yn y ganolfan hamdden.
Nid yw’r plant yn ddifrifol wael ac maent yn cael triniaeth ragofalol gan staff y gwasanaeth ambiwlans.
Bydd y gwasanaethau brys yn aros ar y safle tra bod asesiadau pellach yn cael eu cwblhau i weld beth a achosodd y digwyddiad.