Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dihangfa lwcus i ddyn o dân yn ei gartref yn Wrecsam

Postiwyd

 

 

Cafodd dyn ddihangfa lwcus wedi i dân gynnau yn ystod oriau mân y bore yn ei gartref yn Wrecsam.

 

Fe anfonwyd dwy injan dân i’r digwyddiad yn Windsor Drive, Wrecsam am 02.57 o’r gloch y bore Ddydd Mercher 8fed Chwefror. Roedd y tân dan reolaeth erbyn 02.57 o’r gloch.

 

Cafodd dyn oedrannus ei gludo i’r ysbyty oherwydd ei fod wedi anadlu mwg yn dilyn y digwyddiad. 

 

Credir bod y tân wedi ei achosi gan flanced drydan.

 

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Roedd y dyn yma’n lwcus iawn ei fod wedi llwyddo i ddianc yn ddianaf - er ei fod wedi cael ei gludo i’r ysbyty am driniaeth.

 

“Mae’r pecyn gofal sydd ganddo ar waith yn golygu bod canolfan alwadau yn cael ei hysbysu pan fydd larymau mwg y cartref  yn seinio a staff y ganolfan wnaeth ffonio’r gwasanaeth tân ac achub.  Rhoddodd hyn rybudd cynnar i’r unigolyn a’r gwasanaeth tân ac achub. 

 

“Mae’n hanfodol eich bod yn barod rhag ofn i’r gwaethaf ddigwydd.  Fe all larwm mwg gweithredol roi cyfle i chi fynd allan, aros allan a galw 999. Cadwch eich hun a’ch hanwyliaid yn ddiogel drwy brofi’ch larwm mwg yn rheolaidd a thrwy gynllunio ac ymarfer eich cynllun dianc yn rheolaidd.

 

“Mae’r digwyddiad hefyd yn amlygu peryglon camddefnyddio cyfarpar trydanol – dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr bob amser; fe all cyfarpar orboethi’n hawdd iawn oni bai eich bod yn cymryd gofal.”

 

Dyma air i gall ar ddiogelwch trydanol:

  • Dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr ar gyfer defnyddio eich planced bob amser. Bydd hyn yn eich helpu chi i ddefnyddio a storio eich planced yn ddiogel ac yn golygu y bydd eich planced yn para yn hirach. Storiwch y flanced yn fflat neu wedi rowlio a pheidiwch â gadael unrhyw beth ar ben y flanced.
  • Dylech gael planced drydan newydd bob 10 mlynedd a dylech ei phrofi bob 2 flynedd.
  • Gwiriwch eich planced am farciau llosgi, difrod dŵr, llwydni neu wifrau agored. Os byddwch yn gweld unrhyw un o’r rhain ar eich planced, peidiwch â’i defnyddio, prynwch un newydd.
  • Peidiwch byth â defnyddio potel dŵr poeth nac yfed hylifau yn y gwely pan fydd eich planced drydan wedi’i gosod. Os byddwch yn colli eich diod neu os yw’r botel dŵr poeth yn gollwng byddwch yn cymysgu dŵr a thrydan.
  • Peidiwch â phlygu plancedi trydan.
  • Amddiffynnwch y gwifrau tu mewn iddynt drwy eu storio yn fflat neu wedi eu rowlio.
  • Peidiwch â gadael planced drydanol ymlaen drwy’r nos oni bai ei bod yn cael ei rheoli gan thermostat ac y gellir ei defnyddio drwy’r nos.
  • Fe ddylai plancedi trydan arddangos symbol Nodyn Barcud Prydain a’r symbol BEAB arnynt.

 

Am gyngor pellach ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen