Adfeilion pier Bae Colwyn ar dân
PostiwydCafodd criwiau eu galw at dân ym mhier Bae Colwyn am 4.36pm heddiw (Dydd Gwener 10fed Mawrth).
Roedd criw o Fae Colwyn a Llandudno yn bresennol ac mae’r tân bellach dan reolaeth. Oherwydd bod y llanw wedi dod i mewn nid yw’n bosib cadarnhau a yw’r tân wedi ei ddiffodd yn gyfan gwbl ac o’r herwydd bydd y criwiau yn parhau i fod yn bresennol drwy gydol y nos.
Bydd ymchwiliad i achos y tân yn cael ei gynnal yfory.