Ymgyrch amlasiantaethol yn ymladd tanau glaswellt
PostiwydMae tasglu amlasiantaethol o arbenigwyr o asiantaethau allweddol ledled Cymru wedi cael ei sefydlu i leihau effaith tanau glaswellt, a, lle bo hynny'n bosibl, i ddileu effaith y tanau hynny.
Mae Ymgyrch Dawns Glaw, sydd wedi bod yn weithredol ers dechrau mis Mawrth, yn canolbwyntio ar gyflwyno gweithgareddau addysgol, yn ogystal â gweithgareddau i ddifyrru a gorfodi, ar brif achosion tanau glaswellt.
Wrth siarad ar ran Ymgyrch Dawns Glaw, ac yn rhinwedd ei waith fel Cadeirydd y Bwrdd Strategol ar gyfer Lleihau Tanau Bwriadol yng Nghymru, dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Tân, Mick Crennell, o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru:
“Roeddem am fanteisio ar y cyfle i sicrhau'r cyhoedd ein bod yn gwneud popeth y gallwn ei wneud i leihau nifer y tanau glaswellt bwriadol ar hyd a lled Cymru.
“Mae gan Ymgyrch Dawns Glaw gynrychiolwyr o Wasanaethau Brys Cymru ac asiantaethau partner allweddol, i gyd yn cydweithio gydag un nod mewn golwg – cael gwared ar danau glaswellt bwriadol.
“Ond mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae, a hoffem atgoffa'r cyhoedd fod cynnau tanau bwriadol yn drosedd ddifrifol. Nid yw rhoi ein cefn gwlad ar dân yn fwriadol yn beth i chwerthin yn ei gylch, ac mae'n rhoi eich teulu a'ch ffrindiau, yn enwedig yr henoed a phobl fregus, mewn perygl. At hynny, mae'n peryglu adar a bywyd gwyllt yn yr ardaloedd hyn. Trwy weithio gyda'n gilydd, bydd y rheiny sy'n gyfrifol yn cael eu dal ac yn wynebu holl rym y gyfraith.
“Rydym yn sylweddoli y bydd nifer o ffermwyr, perchenogion tir, a phorfawyr wedi bod yn llosgi grug, glaswellt, rhedyn ac eithin dan reolaeth ar eu tir yn ystod yr wythnosau diwethaf, wrth i ddiwedd y tymor llosgi agosáu. Fodd bynnag, hoffwn eu hatgoffa bod y tymor llosgi yng Nghymru wedi dod i ben oddi ar 15 Mawrth, ac y bydd y tymor llosgi ar diroedd uchel yn dod i ben hefyd ar 31 Mawrth. Mae llosgi y tu allan i'r tymor llosgi, heb drwydded arbennig, yn erbyn y gyfraith, a gallai'r rheiny sy'n gwneud hynny wynebu cosb o hyd at £1000.
“Byddem yn annog rhieni i fod yn ymwybodol o le y mae eu plant bob amser, ac i sicrhau eu bod yn sylweddoli bod tanau bwriadol yn gallu peryglu bywydau. Byddem hefyd yn apelio ar y cyhoedd fod yn wyliadwrus, ac i'n helpu i amddiffyn ein cymunedau, a hynny trwy roi gwybod i'r Heddlu ar unwaith am unrhyw weithgarwch amheus.”