Diweddariad - Adfeilion pier Bae Colwyn ar dân
PostiwydCafodd criwiau eu galw at dân ym mhier Bae Colwyn am 4.36pm ddoe (Dydd Gwener 10fed Mawrth).
Roedd criw o Fae Colwyn a Llandudno yn bresennol. Oherwydd bod y llanw wedi dod i mewn nid oedd yn bosib cadarnhau a oedd y tân wedi ei ddiffodd yn gyfan gwbl ac felly bu’n rhaid i un criw aros ar y safle.
Credir bod y tân wedi cael ei gynnau’n ddamweiniol wedi i fetel poeth achosi i’r pren fynd ar dân, yn ystod gwaith torri.