Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg yn cefnogi her newydd Bagloriaeth Cymru i gadw cymunedau’n ddiogel yn ac yn agos at ddŵr
PostiwydYsgolion uwchradd Cymru i gymryd rhan mewn her gymunedol newydd sy’n ymdrin â diogelwch dŵr i ennill cymhwyster Bagloriaeth
Gyda 400 o bobl yn boddi’n ddamweiniol bob blwyddyn yn y DU, a 40 o’r rhain yng Nghymru, mae diogelwch yn y dŵr ac yn agos ato yn flaenoriaeth i’r gwasanaethau brys, elusennau, diwydiannau a sefydliadau achub i wneud yn siŵr bod achosion yn gostwng ar arfordiroedd ac mewn dŵr mewndirol, afonydd a dŵr agored yng Nghymru.
Mae’r flaenoriaeth hon wedi ei datblygu ymhellach drwy lansiad her gymunedol newydd fel rhan o Fagloriaeth Cymru. Bydd ysgolion uwchradd yn cymryd rhan yn yr her ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi.
Bydd yr asiantaethau sydd yn darparu a chefnogi’r her hon ar ran CBAC yn cynnwys Cymdeithas Frenhinol Achub Bywydau'r DU (RLSS), y tri Gwasanaeth Tân ac Achub, y Gymdeithas Cynnyrch Mwynol (MPA), yr RNLI a Dŵr Cymru.
Fe ymunodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gymru, Kirsty Williams AC, â’r asiantaethau cyfrifol yn ystod lansiad yr her newydd. Meddai, “Mae diogelwch yn y dŵr ac yn agos ato yn flaenoriaeth i elusennau, gwasanaethau brys a sefydliadau achub i wneud yn siŵr bod marwolaethau trasig o ganlyniad i foddi yn cael eu gostwng ar arfordiroedd, ac mewn dŵr mewnol ac agored yng Nghymru. Mae’n bwysig bod systemau addysg yn chwarae rhan yn hyn. Edrychaf ymlaen at gael cwrdd â myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Queen Elizabeth, Caerfyrddin heddiw i gael clywed eu barn hwy ar yr adnoddau hyn.”
Meddai Caroline Morgan o CBAC, “Drwy’r her gymunedol newydd, bydd disgyblion Bagloriaeth Cymru yn dysgu sgiliau diogelwch dŵr ymarferol y gallant eu rhannu gyda’u teulu, ffrindiau a chyfoedion. Rydym wrth ein bodd ein bod yn gweithio gyda’r sefydliadau hyn ar y prosiect newydd hwn.”
Fel rhan o’r lansiad, a gynhaliwyd gan Cemex UK yn ei chwarel yng Ngwenfô, rhoddodd Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) arddangosiad o’r technegau achub gwahanol y mae eu criwiau yn eu defnyddio i achub pobl sy’n mynd i drybini yn y dŵr.
Fe ychwanegodd y Rheolwr Maes Alison Kibblewhite o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a chadeirydd diogelwch dŵr cenedlaethol Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân (CFOA), “Mae Gwasanaethau Tân ac Achub o bob cwr o’r DU yn gweithio i gadw cymunedau’n ddiogel yn y dŵr, boed ar yr arfordir, mewn afonydd, dŵr mewndirol neu ddŵr agored ac mae’r her gymunedol newydd yma yn dyst bod yr ymrwymiad yng Nghymru i leihau achosion o foddi yn un o’n prif flaenoriaethau.
“Mae'r her hefyd yn rhoi cyfle i ni yn y Gwasanaeth Tân ac Achub gydweithio gyda sefydliadau ac elusennau sydd yn arbenigo mewn diogelwch dŵr i wneud yn siŵr ein bod yn darparu negeseuon cyson i'n cymunedau.”
Mae’r her dŵr cymunedol yn cynnwys dŵr agored a llanw, yn ogystal â chronfeydd dŵr, llynnoedd a chamlesi. Bydd gofyn ar i’r disgyblion ymrwymo hyd at 10 awr fel rhan o’r her, a byddant yn cynllunio a chymryd rhan mewn gweithgareddau a fydd yn addysgu eu cyfoedion, a hefyd eu cymunedau ac ymwelwyr ynglŷn â pheryglon dŵr, yn ogystal â sut i fwynhau’r dŵr yn ddiogel.
Meddai Andrea Roberts, Cydlynydd Cymunedol Atal Boddi RLSS UK, “Pob blwyddyn mae miloedd o bobl yn wynebu’r perygl o foddi, ond maent yn ffodus i achub eu hunain neu gael eu hachub gan eraill.
“Mae’r partneriaid wedi bod yn gweithio’n agos i addysgu’r gymuned ynglŷn â pheryglon dŵr a sicrhau bod diogelwch dŵr yn cael ei gynnwys ym Magloriaeth Cymru drwy gyflwyno’r her gymunedol, bydd yn rhoi gwybodaeth hanfodol i bobl a allai olygu’r gwahaniaeth rhwng byw neu farw.”
Y Gymdeithas Cynnyrch Mwynol (MPA) sydd y tu ôl i’r her yma, gan fod pobl yn dal i beryglu eu hunain drwy nofio mewn dŵr sydd dros 30m mewn mannau mewn chwareli ledled Cymru.
Am ragor o wybodaeth am Her Dŵr Cymunedol Bagloriaeth Cymru, ewch i www.rlss.org.uk a chwiliwch am yr Her yn yr adran Gwobrau a Gweithgareddau.