Amlygu pwysigrwydd diogelwch trydan wedi i beiriant golchi llestri fynd ar dân yn Wrecsam
PostiwydMae’r gwasanaeth tân ac achub yn apelio ar drigolion i wneud yn siŵr bod eu heitemau trydanol a nwyddau gwynion mewn cyflwr gweithredol da wedi i beiriant golchi llestri achosi tân mewn eiddo yn Merffordd, Wrecsam ddoe.
Cafodd diffoddwyr tân o Wrecsam eu galw at dân yn Ffordd Hawthorn, Merffordd am 12.08 o’r gloch ddoe, 9fed Ebrill i ddelio gyda thân mewn cegin. Fe ddefnyddiodd y criwiau ddwy bibell dro a phedair set o offer anadlu i ddelio gyda’r tân a achosodd ddifrod 100% i’r peiriant golchi.
Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: “Yn achos nifer o danau mae’r gwneuthurwyr wedi galw’r eitemau hyn yn ôl ond mae trigolion yn dal i’w defnyddio.
“Rydym yn apelio ar drigolion i wneud yn siŵr bod eu heitemau trydanol mewn cyflwr gweithredol da, a mewngofnodi i’r gofrestr galw cynnyrch yn ôl rhag ofn eu bod yn defnyddio’r cyfarpar hyn yn y cartref.
“Mae’r rhan fwyaf o gynnyrch y mae pobl yn eu defnyddio yn y cartref yn ddiogel ond mae’n bwysig eich bod yn gwneud yn siŵr nad ydy’r cyfarpar yr ydych chi’n eu defnyddio wedi cael eu galw’n ôl.
“I weld y gofrestr galw cynnyrch yn ôl ewch i www.electricalsafetyfirst.org.uk
“Os ydych yn poeni am gyfarpar sydd ddim ar y rhestr, stopiwch ei ddefnyddio ar unwaith a rhowch wybod i’r gwerthwr, y gwneuthurwr neu’ch Swyddfa Safonau Masnachu lleol.
“Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru eitemau newydd, fel bod modd i wneuthurwyr gysylltu â chi rhag ofn bod problem. Ewch i www.registermyappliance.org.uk am ragor o wybodaeth ac i gofrestru’ch cyfarpar trydanol.
"Hefyd, dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr wrth eu defnyddio, ac fe ddylai trigolion gymryd rhagofalon syml i leihau’r perygl o dân trydanol - peidiwch â gorlwytho socedi, archwiliwch wifrau’n rheolaidd rhag ofn eu bod wedi treulio, tynnwch y plwg os nad ydych yn defnyddio’r cyfarpar, cadwch gyfarpar yn lân ac mewn cyflwr gweithredol da a datodwch lidiau estyn yn llawn cyn eu defnyddio.
“Ein cyngor yw bob mor barod â phosib rhag tân, drwy wneud yn siŵr bod gennych larymau mwg gweithredol yn eich cartref a bod eich llwybrau dianc yn glir er mwyn eich galluogi chi a’ch teulu i fynd allan mor gyflym â phosib.”