Rhybuddio am bwysigrwydd larymau mwg ar ôl achub cwpl o dân yn eu cartref ym Mhorth Amlwch
PostiwydMae Swyddog Tân yn rhybuddio trigolion ynglŷn pheryglon tanau trydanol a phwysigrwydd gosod larymau mwg gweithredol yn y cartref wedi i gwpl gael eu hachub o dân yn eu cartref ym Mhorth Amlwch yn gynharach y bore yma.
Cafodd y cwpl eu cludo i’r ysbyty am driniaeth oherwydd eu bod wedi anadlu mwg.
Anfonwyd criw o Amlwch a Benllech i’r eiddo ar Stryd y Capel, Porth Amlwch am 02.54 o’r gloch y bore yma, Dydd Llun 10fed Ebrill.
Bu i’r diffoddwyr tân dywys y cwpl o’r eiddo a defnyddio un bibell dro a phedair set o offer anadlu i ddelio gyda’r tân, a oedd wedi cychwyn yn y gegin.
Credir bod y tân wedi ei achosi gan ddadleithydd diffygiol.
Nid oedd larymau mwg gweithredol yn yr eiddo.
Meddai Mike Owen o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae larymau mwg yn rhoi rhybudd cynnar i’ch galluogi i fynd allan yn gyflym os bydd tân yn eich cartref.
“Mae’r cwpl yma’n ffodus iawn eu bod wedi dianc yn ddianaf. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi gosod larymau mwg gweithredol ar bob llawr yn eich cartref a phrofwch hwy bob wythnos.
"Mae’n bwysig eich bod yn defnyddio cyfarpar yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a’ch bod yn archwilio eitemau trydanol rhag ofn eu bod wedi eu difrodi neu dreulio. Mae cymaint o drigolion yn defnyddio lidiau estyn sydd wedi eu torchi ond rydym ni’n argymell eu datod yn llwyr cyn eu defnyddio.
“Mae’r tân yn amlygu peryglon tanau trydanol - fe allant ddigwydd unrhyw bryd, yn unrhyw le. Ein cyngor yw bod mor barod â phosib rhag tân drwy wneud yn siŵr bod gennych larymau mwg gweithredol yn eich cartref a bod eich llwybrau dianc yn glir er mwyn eich galluogi chi a’ch teulu i fynd allan cyn gyflymed â phosib.
"Dyma gamau syml y gallwch chi eu cymryd i atal tân trydanol yn eich cartref. Maent yn cynnwys:
- PEIDIO gorlwytho socedi
- ARCHWILIO gwifrau yn rheolaidd rhag ofn eu bod wedi treulio
- TYNNU’R plwg os nad ydych yn defnyddio’r cyfarpar
- CADW cyfarpar yn lân ac mewn cyflwr gweithredol da
- DATOD lidiau estyn yn llwyr cyn eu defnyddio
“Pam na rowch chi gynnig ar ein cyfrifiannell ‘ampau’ ar ein gwefan a’n tudalen facebook – ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk – mae’n rhoi gwybod os ydych cyn gorlwytho socedi a’ch helpu i gadw’n ddiogel rhag tân trydanol."