Rhybudd yn dilyn tân mewn cegin yn y Rhyl
PostiwydRoedd yn rhaid i deulu o bump ddianc o dŷ yn Ffordd Ffynnongroyw yn y Rhyl am 9.16am heddiw, Dydd Sadwrn 1af Ebrill, wedi i blentyn droi nobiau popty ymlaen a oedd gan eitemau ar yr hob.
Meddai’r Dirprwy Bennaeth Diogelwch Cymunedol Jane Honey: “Cafodd y teulu eu rhybuddio am y tân gyda diolch i’w larwm mwg, a llwyddodd pawb i fynd allan ar unwaith.”
Meddai: “Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg a pheidio â gadael eitemau hylosg ar y hob.”
Roedd y tân wedi mynd allan erbyn i’r criwiau tân gyrraedd, ond fe achosodd y mwg ddifrod sylweddol i’r gegin.
Cafodd y teulu eu cludo i Ysbyty Glan Clwyd rhag ofn, oherwydd eu bod wedi anadlu mwg.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn argymell eich bod yn profi’ch larwm mwg yn rheolaidd.