Tân ar safle hen Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych
PostiwydMynychodd criwiau dân ar safle hen Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych am 03.04am fore heddiw (Dydd Gwener 2il Mehefin).
Mynychodd mwy na 40 o diffoddwyr tân o Ddinbych, Rhuthun, y Rhyl, Treffynnon, Abergele, Cerrigydrudion a’r Wyddgrug y digwyddiad yn ystod y nos.
Mae to yr adeilad wedi cwympo gan adael yr adeilad mewn cyflwr anniogel. Bydd diffoddwyr tân ar y safle am beth amser er mwyn diffodd y tân.
Gofynnir i fodurwyr osgoi’r ardal er mwyn caniatáu i’r gwasanaethau argyfwng ddelio â’r digwyddiad.