Fideo Iaith Arwyddion Prydain newydd i gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi lansio fideo Iaith Arwyddion Prydain newydd ar ei wefan i gynorthwyo pobl gyda nam ar eu clyw.
Mae’r lansiad yn cyd-fynd ag Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar rhwng 15-21 Mai 2017 sef ymgyrch unigryw sydd yn galluogi i gymaint o sefydliadau â phosib hybu’r gwaith y maent yn ei wneud ar gyfer pobl â phob math o gyflyrau yn ymwneud â’r clyw.
Nod y fideo newydd yw amlygu’r cyngor a chefnogaeth diogelwch tân eang sydd ar gael yn ogystal ag atgyfnerthu’r neges bod y Gwasanaeth yn cynnig archwiliadau diogelwch cartref ac offer arbenigol i drigolion byddar a thrwm eu clyw yn y rhanbarth.
Mae larwm mwg gweithredol yn rhoi cyfle i chi fynd allan mewn achos o dân, ond os ydych chi’n dioddef o nam ar y clyw neu’n tynnu’ch cymhorthion clyw gyda’r nos mae’n bosib na fyddwch yn clywed y larwm mwg yn seinio.
Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: “Mae pob math o larymau mwg ar gael sydd wedi cael eu dylunio’n arbennig ar gyfer pobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw.
“Mae nifer o bobl sy’n drwm eu clyw mewn perygl oni bai bod ganddynt larymau mwg addas. Fe all system larwm arbenigol roi cyfle i bobl fynd allan mewn achos o dân. Hebddynt, fe all pobl golli eu bywydau.
“Mae ein clip fideo newydd yn dangos y gwahanol systemau a’r mesurau diogelwch sydd ar gael i bobl â nam ar eu clyw.
“Rydym yn gobeithio y bydd y clip fideo newydd yn cynyddu ymwybyddiaeth pobl ynglŷn â’r offer arbenigol yr ydym ni’n ei gynnig a helpu pobl i gadw’n ddiogel yn eu cartrefi.
"Cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am archwiliad diogelwch cartref os nad ydych yn siŵr pa fath o larwm sy’n addas i chi. Rydym yma i helpu i wneud yn siŵr bos eich cartref mor ddiogel â phosib rhag tân.
"I drefnu archwiliad, ffoniwch ein llinell gymorth ddwyieithog 24 awr ar 0800 169 1234 neu cysylltwch â ni ar www.larwmmwgamddim.co.uk."