Galw diffoddwyr tân i ysgol yng Nghoedpoeth
PostiwydCafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw i fân ddigwyddiad yn Ysgol Bryn Tabor Yng Nghoedpoeth y prynhawn yma (Dydd Mercher 12fed Gorffennaf).
Anfonwyd dwy injan dân o Wrecsam i’r digwyddiad am 13.42 o’r gloch.
Roedd y tân wedi ei gyfyngu i ardal cegin.
Fe seiniodd y larwm tân rybudd a llwyddodd pawb i fynd allan o’r adeilad yn ddiogel.
Fe dderbyniodd dau aelod o’r staff archwiliad rhagofalol yn y fan a’r lle oherwydd eu bod wedi anadlu mwg.
Mae’n rhy gynnar i ddweud beth oedd achos y tân ac mae’r swyddogion wrthi’n casglu gwybodaeth.
Mae pawb wedi cael mynd yn ôl i mewn i’r adeilad erbyn hyn.