Gogledd Cymru yn lansio cynllun Cadetiaid Tân Cenedlaethol
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi lansio ei gynllun newydd Cadetiaid Tân Cenedlaethol yn yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw (dydd Mawrth 8fed Awst).
Mae’r Cadetiaid Tân Cenedlaethol yn fudiad ieuenctid addysgol a redir gan y Gwasanaethau Tân ac Achub mewn partneriaeth â Chymdeithas y Prif Swyddogion Tân.
Nod y cynllun yw creu cymunedau diogelach, cryfach trwy ddatblygu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth unigolion o’u cymuned i wella sgiliau dinasyddiaeth.
Mae’r fenter yn rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 13 a 18 gael cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol megis BTEC Lefel 2 mewn Gwasanaethau Tân ac Achub yn y Gymuned a thystysgrifau galwedigaethol o gyrhaeddiad mewn amrywiaeth o feysydd.
Dysgir amrywiol sgiliau i bobl ifanc, gan gynnwys gweithio fel tîm, datrys problemau a cyfathrebu ynghyd â sgiliau bywyd uwch i gryfhau eu cyflogadwyedd.
Meddai Stuart Millington, Uwch Swyddog Diogelwch Tân: “Mae gennym ganghennau Diffoddwyr Tân Ifanc yma ers blynyddoedd ond rydym nawr wedi symud drosodd i’r Cynllun Cadetiaid Cenedlaethol fel y rhan fwyaf o wasanaethau tân ac achub yn y DU.
“Mae’r cynllun newydd hwn yn un cenedlaethol lle bydd hyfforddwyr yn arwain y cadetiaid trwy gwrs gydnabyddedig i’w galluogi i ddysgu sgiliau newydd a chael cymhwyster ar yr un pryd.
“Bydd pobl ifanc yn elwa mewn nifer o ffyrdd trwy ymuno â’r cynllun cadetiaid i helpu i feithrin eu hyder, dysgu am barch a gweithio fel rhan o dîm.”
Mae wyth uned yng Ngogledd Cymru, sef:
- Amlwch
- Biwmares
- Yr Waun
- Conwy
- Llanfairfechan
- Prestatyn
- Pwllheli
- Rhuthun
Mae’r unedau yn cyfarfod unwaith yr wythnos yn eu gorsaf dân leol – isod nodir eu nosweithiau cyfarfod:
Amlwch – Nos Lun
Biwmares – Nos Fawrth
Conwy – Nos Lun
Yr Waun – Nos Iau
Llanfairfechan – Nos Fercher a Nos Iau
Prestatyn – Nos Fercher
Pwllheli – Nos Fercher
Rhuthun – Nos Iau
Sut i wneud cais
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn Gadet Tân neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, ebostiwch nationalfirecadets@nwales-fireservice.org.uk neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk