Rhybudd yn dilyn tân mewn cegin
PostiwydGalwyd criwiau o Wrecsam i dân cegin mewn fflat yn Ffordd Gwilym, Wrecsam am 04.21am y bore yma (Dydd Mercher 13 Gorffennaf). Cafodd y tân ei achosi gan fwyd a oedd wedi cael ei adael yn coginio heb neb i gadw llygaid arno a chafodd un person driniaeth ragofalol yn y fan a’r lle o ganlyniad i anadlu mwg.
Meddai Jâmi Jennings, Rheolwr Diogelwch Cymunedol: “Dro ar ôl tro rydym yn cael ein galw i danau yn y cartref sydd wedi cychwyn yn y gegin - mae’n hawdd iawn anghofio am fwyd sy’n coginio, yn enwedig os ydych wedi blino, ddim yn canolbwyntio neu os ydych wedi bod yn yfed, ac fe all y canlyniadau fod yn drychinebus.
“Mae ein neges yn glir, peidiwch byth â throi eich cefn ar fwyd sydd yn coginio, hyd yn oed am eiliad, yn enwedig sosbenni sglodion. Fe all hyn arwain at ganlyniadau trychinebus. Fe all yr olew yn y sosban orboethi’n gyflym a mynd ar dân – fe all hyd yn oed y peth lleiaf ddwyn eich sylw ac achosi tân mewn ychydig eiliadau. Mae sglodion popty yn opsiwn llawer mwy diogel ac iach, ond os ydych am goginio gyda ffrïwr saim dwfn, cofiwch gadw llygaid arno. Os aiff eich sosban ar dân, peidiwch â thaflu dŵr arni. Ewch allan, arhoswch allan a galwch 999. Peidiwch byth â cheisio diffodd y tân eich hun. Gwell fyth fyddai gwneud i ffwrdd â’ch sosban sglodion yn gyfan gwbl a defnyddio ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli’r gwres.
"Mae larymau mwg yn achub bywydau. Maent yn rhoi rhybudd cynnar a all roi cyfle i chi fynd allan yn ddianaf. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnal a chadw’ch larwm mwg a’i brofi unwaith yr wythnos.
Dyma air i gall ar sut i gadw’n ddiogel yn y gegin:
- Os oes rhaid i chi adael y gegin, tynnwch y bwyd oddi ar y gwres
- Peidiwch â defnyddio matsis a thanwyr i danio poptai nwy. Mae dyfeisiadau tanio yn llawer mwy diogel
- Gwnewch yn siŵr nad ydy coesau’ch sosbenni yn mynd dros ymyl y popty
- Cadwch eich popty, pentan a gridyll yn lân – gall saim a braster sydd wedi casglu fynd ar dân yn hawdd iawn
- Peidiwch â hongian dim byd uwch ben eich popty
- Cymrwch ofal os ydych chi’n gwisgo dillad llac - gallant fynd ar dân yn hawdd iawn
- Ar ôl i chi orffen coginio gwnewch yn siŵr bod popeth wedi ei ddiffodd
- Diffoddwch gyfarpar trydanol pan nad ydych yn eu defnyddio
- Peidiwch byth â defnyddio sosbenni sglodion – defnyddiwch ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli’r gwres
- Gosodwch larymau mwg yn eich cartref – maent ar gael yn rhad ac am ddim a gallant achub eich bywyd.