Rhybudd ynglŷn â sosbenni sglodion yn dilyn tân yng Nghefn Mawr
PostiwydMae swyddog tân wedi cyhoeddi rhybudd am beryglon sosbenni sglodion a gadael bwyd yn coginio heb neb i gadw llygaid arno wedi i sosban sglodion fynd ar dân yng Nghefn Mawr ger Wrecsam.
Anfonwyd criw o’r Waun a Johnstown i’r eiddo yng Nghefn Mawr ger Wrecsam am 18.43 o’r gloch ddoe.
Fe achosodd y tân ddifrod tân a mwg sylweddol yn ardal y gegin.
Roedd larymau mwg yn yr eiddo ac fe wnaethant seinio rhybudd.
Meddai Jâmi Jennings, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Wrecsam a Sir y Fflint:“Fe all gadael sosban sglodion heb neb i gadw llygaid arni arwain at ganlyniadau trychinebus gan y gall yr olew orboethi’n hawdd iawn a mynd ar dân – fe all hyd y peth lleiaf fynd â'ch sylw ac achosi tân mewn eiliadau.
“Mae sglodion popty neu ffrïwyr aer yn lawer iachach, ond os ydych yn dewis coginio mewn saim dwfn peidiwch â’i adael ymlaen heb neb i gadw llygaid arno. Os aiff eich sosban ar dân, peidiwch â thaflyd dŵr arni. Ewch allan, arhoswch allan a galwch 999. Peidiwch â cheisio diffodd y tân eich hun.
“Neu yn well fyth - taflwch eich sosban sglodion a defnyddiwch ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli’r gwres.”
“Fe all tân ddatblygu’n dân difrifol iawn mewn ychydig funudau. Os ydych yn cysgu ar adeg y tân, rydych mewn trwbl – drwy anadlu dim ond ychydig o’r mwg fe allwch gael eich taro’n anymwybodol.”
Os ydych yn dewis ffrio’ch sglodion mewn saim dwfn, dilynwch y canllawiau isod i leihau’r perygl o dân;
- Peidiwch â gorlenwi’ch sosban gydag olew – ni ddylech fyth ei llenwi fwy na thraean
- Gofalwch rhag ofn iddi orboethi – fe all olew poeth fynd ar dân yn hawdd iawn
- Defnyddiwch ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli’r gwres, er mwyn gwneud yn siŵr na fydd yr olew yn gorboethi.
- Peidiwch byth â thaflu dŵr oer ar eich sosban os aiff hi ar dân
- Ar lwgu ar ôl noson allan? Peidiwch â choginio os ydych wedi bod yn yfed alcohol
- Lluniwch gynllun dianc rhag ofn y bydd tân
- Peidiwch â pheryglu’ch bywyd drwy geisio diffodd y tân eich hun. Ewch allan, arhoswch allan a galwch 999
- Gosodwch larymau mwg a phrofwch nhw’n rheolaidd.