Digwyddiad ym Mwcle
PostiwydGalwyd diffoddwyr tân i ddigwyddiad mewn eiddo ar Southfields Close, Bwcle am 9.54am fore heddiw (dydd Mercher 3ydd Ionawr).
Wrth iddynt gyrraedd, rodd arogl llosgi yn y tŷ, a darganfu’r criwiau bod eitem wedi ei gadael ar y cwcer a oedd yn creu’r arogl.
Meddai Tim Owen o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Dro ar ôl tro rydym yn mynd i dân mewn tŷ sydd wedi cychwyn yn y gegin – yn y digwyddiad hwn roedd y deiliad wedi gadael darn o bren ar yr hob a oedd wedi cynhesu dros gyfnod o amser a chreu arogl o losgi yn y tŷ.
"Roedd y deiliad yn lwcus ei bod wedi arogli’r llosgi a’n galw ni allan cyn i hwn ddatblygu’r dân difrifol. Ein cyngor yw peidiwch byth â gadael unrhyw beth ar neu’n agos at yr hob hyd yn oed os ydych chi wedi eu diffodd.
"Mae larymau mwg yn achub bywydau. Mae’r rhybudd cynnar a roddir gan larwm mwg yn medru rhoi munudau hanfodol i helpu pobl i ddianc yn ddi-anaf. Gwnewch yn siŵr bod gennych larymau mwg wedi eu gosod a’u cynnal trwy eu profi unwaith yr wythnos.”