Tân mewn cartref nyrsio yn Rhuthun
PostiwydCafodd tri o bobl oedrannus driniaeth am effeithiau anadlu mwg yn dilyn tân mewn cartref nyrsio yn Sir Ddinbych nos Fercher, 22 Chwefror.
Galwyd y gwasanaethau brys i Gartref Nyrsio Plas Gwyn yn Llanhychan, Rhuthun am 7.55pm wedi adroddiadau bod tân yn yr adeilad.
Anfonwyd injans tân o Ruthun, Dinbych a Bwcle at y digwyddiad ac fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân bedair set o offer anadlu a dwy bibell dro i ymladd y tân.
Daethpwyd o hyd i’r holl breswylwyr a staff yn gyflym. Cafodd tri o breswylwyr oedrannus eu cludo i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan yn dioddef o effeithiau anadlu mwg, ond nid oedd eu cyflwr yn bygwth eu bywydau.
Llwyddwyd i ddod â’r tân dan reolaeth erbyn 20.49 o’r gloch a chafodd yr holl breswylwyr eu symud yn ôl i mewn i’r adeilad ar ôl derbyn cadarnhad ei fod yn ddiogel.
Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill, ond nid oes rheswm i gredu ei fod yn amheus.