Tân yn dinistrio adeilad hanesyddol
PostiwydMae adeilad hanesyddol ger Trawsfynydd wedi cael ei ddinistrio'n llwyr gan dân.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi lansio ymchwiliad ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru wedi i dafarn y Rhiw Goch ar barc gwyliau ger Trawsfynydd gael ei llosgi’n ulw.
Defnyddiwyd chwe pheiriant diffodd tân, dau dendr dŵr a pheiriant cyrraedd yn uchel i daclo’r tân a gychwynnodd am tua 12:30 o’r gloch y bore, dydd Sul 14eg Hydref.
Meddai Kevin Jones, Rheolwr Grŵp a Rheolwr Diogelwch Cymunedol dros Gonwy a Sir Ddinbych:
"Mae achos y tân, sydd wedi dinistrio 100% o'r adeilad hanesyddol, yn destyn ymchwilad."
"Diolch byth chafodd neb eu hanafu, ac fe lwyddodd y diffoddwyr tân i rwystro'r fflamau rhag lledaenu i adeiladau cyfagos”.