Dynes yn marw mewn tân mewn eiddo yn Nhowyn
PostiwydMae dynes wedi marw ar ôl tân yn Nhowyn, Conwy.
Galwyd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i adroddiad o dân mewn eiddo yn Gors Road, oddi ar Kinmel Way am 08.48 o’r gloch y bore yma (Dydd Mercher 31ain Hydref).
Anfonwyd pedwar peiriant tân ar ôl adroddiadau bod mwg yn dod allan o’r eiddo – un peiriant o Fae Colwyn, dau o’r Rhyl ac un o Abergele.
Wrth gyrraedd, gwelodd criwiau bod tân difriofol ar lawr gwaelod bynglo dormer.
Defnyddiwyd pedair set o offer anadlu, dwy bibell chwistrellu ac un prif chwistrell wrth ddelio gyda’r digwyddiad.
Cafwyd hyd i ddynes, y credir iddi fod yn ei 60au canol, yn yr eiddo gan ddiffoddwyr tân. Cafodd ei throsglwyddo i ambiwlans i fynd i’r ysbyty, ond bu farw yn fuan wedyn.
Bu dau gi farw yn y tân hefyd.
Bydd achos y tân yn destun cyd-ymchwiliad gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.
Nid oes manylion pellach ar gael ar hyn o bryd.