Apêl i adrodd am bobl sydd yn cynnau tanau yn fwriadol yn dilyn tanau ar noson tân gwyllt
PostiwydMae swyddogion o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar i’r gymuned gefnogi eu gwaith ac adrodd am bobl sydd yn cynnau tanau yn fwriadol wedi i griwiau gael eu galw at naw o danau bwriadol yn ystod cyfnod o chwech awr neithiwr (5ed Tachwedd).
Digwyddodd saith o’r rhain yn ardal Wrecsam, un yng Nghaernarfon ac un yn Garden City.
Roedd un yn ymwneud â thân mewn ffermdy gwag yn yr Orsedd, ac roedd diffoddwyr tân yno dros nos ac yn ystod y bore.
Mae swyddogion hefyd yn condemnio’r ymddygiad gwrthgymdeithasol gan griw o bobl ifanc yn ardal Wrecsam a wnaeth ymddwyn yn fygythiol tuag at ddiffoddwyr tân a oedd yn mynd at ddigwyddiadau – wrth ymateb i adroddiadau o dân yn ardal Southsea, cafodd diffoddwyr tân eu difrïo a’u bygwth gyda thân gwyllt.
Meddai Tim Owen, Rheolwr Lleihau Llosgi Bwriadol ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:
“Yn anffodus mae’r grŵp yma’n cynrychioli canran fechan iawn o bobl – rydym wedi cael cefnogaeth ragorol i’r gwaith yr ydym ni’n ei wneud gan ein cymunedau a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ein helpu a chefnogi’n hymgyrch Bydd yn Gall ar Noson Guto (BANG) i fynd i’r afael ag achosion o danau bwriadol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod y tymor tân gwyllt a Chalan Gaeaf.
“Fodd bynnag, mae’r math yma o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gwbl annerbyniol - ni fyddwn yn goddef iaith ddifrïol neu ymosodiadau tuag at ein staff. Mae ein diffoddwyr tân yn gweithio i amddiffyn ein cymunedau a ni ddylent orfod dioddef y math yma ymddygiad wrth wneud eu gwaith.
“Mae digwyddiadau fel hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar ein hadnoddau tân ac achub – wrth i griwiau ddelio gyda digwyddiadau fel hyn, efallai bod gwir angen ein hadnoddau mewn digwyddiadau lle mae bywydau yn y fantol rywle arall yn y sir. Mae cynnau tanau yn fwriadol yn drosedd ddifrifol ac ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru byddwn yn erlyn drwgweithredwyr.”
Fe ychwanegodd yr Arolygydd Gwledig ar gyfer Wrecsam, Steve Owens; “Fe aeth y cyfnod hyd at noson tân gwyllt yn dda iawn gyda dim ond llond llaw o adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Mae hyn yn bennaf oherwydd cydweithrediad y gymuned a’r cydweithio rhwng nifer o asiantaethau amrywiol.
“Yn anffodus penderfynodd criw bach o bobl ifanc achosi difrod a galw anghymesur ar y gwasanaethau brys, sydd yn annerbyniol. Rydym wedi cael enwau’r rhai sydd dan amheuaeth ac rydym yn gweithio gydag asiantaethau ac adran dai’r cyngor i ddod o hyd i’r rhai sy’n gyfrifol a chymryd camau priodol.”
Fe ddylai unrhyw un sydd gan wybodaeth yn ymwneud â thanau bwriadol gysylltu gyda swyddogion yn Heddlu Gogledd Cymru. Fel arall galwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555111