Rhoi pwyslais ar y Pump Angheuol yn ystod Wythnos Diogelwch ar y Ffordd
PostiwydBydd partneriaid diogelwch ffordd yng Ngogledd Cymru yn lledaenu’r gair ar yrru’n ddiogel yn ystod digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ledled y rhanbarth fel rhan o Wythnos Genedlaethol Diogelwch ar y Ffordd (19 – 25 Tachwedd).
Mae Tîm Diogelwch ar y Ffordd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymuno gydag asiantaethau partner i roi cyngor ar gadw’n ddiogel y tu ôl i’r llyw, yn ogystal â chyngor diogelwch ffordd i gerddwyr, seiclwyr a gyrwyr beiciau modur i gefnogi’r fenter genedlaethol sy’n cael ei chydlynu gan yr elusen diogelwch ffordd ‘Brake’.
Y thema ar gyfer Wythnos Diogelwch ar y Ffordd 2018 ydi Bike Smart – mae dros draean o’r bobl sydd yn cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffordd yn y Deyrnas Unedig yn teithio â beic. Mae seiclwyr a gyrwyr beiciau modur ymhlith y defnyddwyr ffordd mwyaf agored i niwed yn y Deyrnas Unedig, gyda thros 100 o feicwyr yn cael eu hanafu bob dydd mewn gwrthdrawiadau diangen y mae modd eu hatal. Mae’r peryglon (a’r cyfleoedd ) y mae seiclwyr a gyrwyr beic modur yn eu hwynebu yn amlwg ond mae’r rheiny sy’n teithio ar ddwy olwyn yn gytûn bod angen cymryd camau ar unwaith i leihau’r perygl o gael eu lladd neu eu hanafu ar ein ffyrdd.
Mae gyrwyr hefyd yn cael eu hatgoffa i gofio’r ‘Pump Angheuol’ – Peidiwch ag yfed a gyrru, Arafwch, Peidiwch â bod yn ddiofal, Gwisgwch eich gwregys diogelwch a Diffoddwch eich ffôn symudol.
Gan fod yr ystadegau’n dangos bod gyrwyr ifanc mewn mwy o berygl o ddioddef gwrthdrawiad ar y ffordd, mae staff o’r Gwasanaeth wedi bod yn ymweld â cholegau o bob cwr o’r rhanbarth i gyflwyno’r cyflwyniad ‘Effeithiau Angheuol’, sydd yn cynnwys cyfraniad gan Heddlu Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Network Rail a Dŵr Cymru. Bydd y cyflwyniad hwn hefyd yn cael ei gyflwyno i staff o’r Gwasanaeth sydd dan 25 oed yn ystod wythnos diogelwch ar y ffordd.
Hefyd fe aeth staff i Rali GB Cymru a gynhaliwyd yng Ngogledd Cymru yn ddiweddar i hyrwyddo diogelwch ar y ffordd ymysg gyrwyr.
Meddai Nigel Roberts, Aelod o’r Tîm Diogelwch Cymunedol ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae a wnelo gwaith y gwasanaeth tân ac achub â mwy na thaclo tanau yn y cartref – rydym yn cael ein galw at nifer uchel o wrthdrawiadau traffig ar y ffordd ac rydym yn gweithio’n ddiflino gydag asiantaethau partner i helpu i addysgu gyrwyr ifanc am ganlyniadau angheuol goryrru neu beidio â chanolbwyntio wrth yrru.
“Wrth i’r gaeaf agosáu, mae nifer o resymau dros gymryd mwy o bwyll ar y ffordd. Rydym yn annog cerddwyr a seiclwyr i wisgo rhywbeth llachar ac adlewyrchol i wneud yn siŵr bod modd i yrwyr eu gweld yn y tywyllwch, ac atgoffa gyrwyr i glirio sgriniau gwynt a ffenestri ar foreau gaeafol.
“Mae’r ymgyrch am eleni yn canolbwyntio ar fod yn ddoeth ar feic – helpu i sicrhau siwrneiau diogel i seiclwyr a chodi ymwybyddiaeth am yr angen i yrru’n ddiogel ymysg gyrwyr beic modur a gyrwyr ceir.
“Mae Wythnos Diogelwch ar y Ffordd yn gyfle gwych i bawb atgoffa eu hunain am y prif bwyntiau diogelwch. Rydym am i bobl fod yn barod ar gyfer y gaeaf. Mae’n bwysig bod gyrwyr yn meddwl am eu diogelwch hwy eu hunain, yn ogystal â diogelwch pobl eraill sy’n defnyddio’r ffordd.”