Dynes yn marw mewn eiddo ym Modelwyddan
Postiwyd
Mae dynes wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ ym Modelwyddan, Sir Ddinbych.
Galwyd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i adroddiad o dân mewn eiddo yn Coronation Close am 13.02 o’r gloch (Dydd Mercher 21ain Tachwedd).
Anfonwyd dwy injan dân at y digwyddiad – un o’r Rhyl ac un o Abergele – ac fe ddefnyddiodd y criwiau bedair set o offer anadlu a dwy brif bibell i daclo’r tân.
Daeth y diffoddwyr tân o hyd i ddynes, y credir ei bod yn ei 60au, yn yr eiddo ond yn anffodus cadarnhawyd ei bod wedi marw yn y fan a’r lle.
Bydd ymchwiliad i achos y tân yn cael ei gynnal ar y cyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru, ond nid yw’n cael ei drin fel tân amheus ar yr adeg hon.
Nid oes rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.