Byddwch yn Ddiogel y Nadolig hwn - Byddwch yn ofalus!
PostiwydGyda goleuadau’r Nadolig yn cael eu rhoi ymlaen ledled y rhanbarth a llawer o bobl yn bwriadu rhoi eu haddurniadau Nadolig i fyny'r wythnos hon, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog trigolion i ddilyn rhai canllawiau syml i aros yn ddiogel dros yr ŵyl.
Meddai Justin Evans, Pennaeth Diogelwch Cymunedol: “Rwy’n gwybod y bydd trigolion ledled y rhanbarth yn paratoi eu harddangosfeydd ac rwy’n gofyn iddynt wneud hynny’n ddiogel, trwy beidio â gorlwytho socedi a defnyddio ceblau diogelwch pwrpasol gyda’r ffiws cywir.
“Bydd gan lawer o bobl amrywiaeth o ddyfeisiau trydanol ar eu rhestri Nadolig eleni - byddwch yn ymwybodol o orlwytho, peidiwch â gwefru eitemau dros nos a defnyddiwch wefrwyr o ffynhonnell ddibynadwy yn hytrach na rhai rhad ôl-farchnad.
“Mae’r cyfnod sy’n arwain at y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn amser i fwynhau bod gyda theulu a ffrindiau, ond mae angen bod yn fwy gofalus nag arfer i osgoi tân a allai ddinistrio’r cartref, gan arwain at golli anrhegion Nadolig a phethau gwerthfawr, a hyd yn oed yn waeth, achosi anaf difrifol neu fygwth eich bywyd chi a’ch anwyliaid.”
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog pobl i aros yn ddiogel ac amddiffyn eu cartrefi rhag tân trwy ddilyn y deuddeg awgrym canlynol er mwyn cadw’n ddiogel dros yr ŵyl:
- 1. Gwnewch yn siŵr bod eich goleuadau Nadolig yn cydymffurfio â Safonau Prydeinig. Defnyddiwch RCD bob amser ar offer trydanol awyr agored (dyfais ddiogelwch sy’n medru achub bywydau trwy ddiffodd y pŵer ar unwaith).
- Peidiwch byth â rhoi canhwyllau yn agos at eich coeden Nadolig neu ddodrefn. Peidiwch â’u gadael yn llosgi pan nad ydych yn yr ystafell.
- Gwnewch yn siŵr bod eich teulu ac ymwelwyr sy’n aros dros y Nadolig yn gwybod beth i’w wneud os oes argyfwng. Lluniwch gynllun dianc a’i ymarfer.
- Gall addurniadau losgi’n hawdd. Peidiwch â’u dodi ynghlwm wrth oleuadau neu wresogyddion.
- Diffoddwch offer trydanol pan nad yw’n cael ei ddefnyddio, os nad yw wedi ei ddylunio i gael ei adael ymlaen.
- Cymerwch ofal arbennig gyda goleuadau Nadolig. Diffoddwch a thynnwch y plwg cyn i chi fynd i’r gwely. Mae Nadolig yn amser pan fyddwn yn defnyddio mwy o eitemau trydanol megis goleuadau ac addurniadau ynghyd â gemau ac ati - peidiwch â gorlwytho socedi a phlygiau ond defnyddiwch geblau diogelwch gyda’r ffiwsys cywir. Edrychwch ar y gyfrifiannell ampau yn www.gwastan-gogcymru.org.uk /eich neu dilynwch y ddolen hon /looking-after-the-electrics.aspx?lang=cy
- Mae’r rhan fwyaf o danau yn cychwyn yn y gegin - peidiwch â gadael bwyd yn coginio. Dathlwch y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn ddiogel. Mae perygl damweiniau, yn enwedig yn y gegin, yn uwch ar ôl yfed alcohol.
- Os ydych yn bwriadu dathlu gyda thân gwyllt, storiwch nhw mewn blwch metel, darllenwch y cyfarwyddiadau, peidiwch byth â mynd yn ôl at dân gwyllt ar ôl eu tanio a chadwch fwced o ddŵr yn agos.
- Gwnewch yn siŵr bod sigaréts wedi eu diffodd yn iawn.
- Gwiriwch y batri yn eich larwm mwg bob wythnos a defnyddiwch y Nadolig i’ch atgoffa i’w lanhau a chael gwared â llwch.
- Cadwch ganhwyllau, tanwyr a matsis o gyrraedd plant.
- Cymerwch yr amser i wneud yn siŵr bod perthnasau a chymdogion yn iawn y Nadolig hwn - sicrhewch eu bod yn ddiogel o safbwynt tân ynghyd â bod yn iach.
Ychwanegodd Justin: “Mae pawb yn hoffi mwynhau eu hunain dros yr ŵyl, ond rydym yn gofyn iddynt feddwl am ddiogelwch wrth ddathlu. Hoffwn hefyd awgrymu trigolion ynglŷn â pheryglon coginio ar ôl yfed alcohol - ‘dyw coginio ac yfed ddim yn cymysgu o gwbl.
"Mae angen i ni i gyd ystyried canlyniadau posibl ein gweithredoedd a meddwl am ddiogelwch er mwyn aros yn ddiogel.
“Hoffwn hefyd ofyn i bawb ystyried teulu neu gymdogion a all fod yn agored i niwed, a sicrhau bod eu cartrefi hwythau’n ddiogel hefyd. Mae’r rhybudd cynnar a roddir gan larwm mwg yn rhoi munudau hanfodol i helpu pobl i ddianc yn ddianaf.”
Ewch i’n tudalen Facebook i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth diogelwch 12 diwrnod y Nadolig a chael cyfle i ennill hamper siocled. www.facebook.com/northwalesfire