Fforwm Hyfforddiant ar Ymchwilio i Danau ar gyfer Cymru Gyfan
PostiwydAr 24 a 25 Ionawr 2018, cynhaliodd y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru y Fforwm Hyfforddiant ar Ymchwilio i Danau cyntaf ar gyfer Cymru Gyfan.
Yn ystod y digwyddiad deuddydd, a gynhaliwyd yng Ngorsaf Tân ac Achub Llandrindod, gwelwyd arbenigwyr o wahanol feysydd sy'n gysylltiedig ag ymchwilio i danau yn rhannu gwybodaeth fanwl â Swyddogion Ymchwilio i Danau o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Ymhlith y pynciau a drafodwyd gan y prif siaradwyr yn ystod y fforwm yr oedd Rôl Uwch-swyddog Ymchwilio, a gyflwynwyd gan y Ditectif Brif Arolygydd Martin Slevin, Heddlu Dyfed Powys; Adnabod Dioddefwyr Trychinebau, a gyflwynwyd gan y Prif Uwch-arolygydd Tony Brown, Heddlu De Cymru; a Datgelu, a gyflwynwyd gan y Ditectif Ringyll Dale Scriven, Heddlu Dyfed Powys.
Cafodd y cynrychiolwyr hefyd diwtorial ar Danau sy'n Mudlosgi gan Lee Asprey o Wasanaeth Tân ac Achub Swydd Durham a Darlington.
Oherwydd natur amrywiol digwyddiadau tân, mae Ymchwilio i Danau hefyd yn gofyn am gydweithio ag asiantaethau y tu allan i'r Gwasanaethau Brys. Felly, cafwyd darlithoedd gan Nick Gravell o SSE, yn ymdrin â materion trydanol a allai arwain at danau, a Victoria Joslin, Penaethiaid Safonau Masnach Cymru, yn ymdrin â Diogelwch Cynnyrch ac Adalw.
Trefnwyd y Fforwm Hyfforddiant ar Ymchwilio i Danau gan Grŵp Ymchwilio i Danau Cymru Gyfan, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r tri Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru.
Dywedodd Cadeirydd y Grŵp, y Rheolwr Grŵp Peter Greenslade, "Ffurfiwyd Grŵp Ymchwilio i Danau Cymru Gyfan er mwyn galluogi'r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru i wella ymhellach y modd y maent yn ymchwilio i danau, a hynny trwy rannu gwybodaeth ac adnoddau. Mae cynnal y Fforwm Hyfforddiant ar Ymchwilio i Danau cyntaf ar gyfer Cymru Gyfan yn garreg filltir sylweddol o ran ein dyheadau i feithrin ein gallu o ran ymchwilio i danau.
Mae'r Fforwm Hyfforddiant ar Ymchwilio i Danau yn gyfle gwych i'n Swyddogion Ymchwilio i Danau ddysgu, trafod a datblygu gwybodaeth am y diwydiant gyda chydweithwyr o asiantaethau partner a Gwasanaethau Tân ac Achub eraill.
Mae cydweithio ag asiantaethau niferus yn agwedd bwysig ar waith y Gwasanaeth Tân ac Achub; o atal ac amddiffyn i ymateb, ac mae'r un peth yn wir am Ymchwilio i Danau. Byddwn yn aml yn gweithio ochr yn ochr â'r heddlu yn ystod ymchwiliadau tân, ac rwy'n falch o'r berthynas weithio ardderchog sydd gennym â Gwasanaethau'r Heddlu yng Nghymru; mae presenoldeb prif siaradwyr o Heddlu Dyfed Powys a Heddlu De Cymru yn y Fforwm Hyfforddiant ar Ymchwilio i Danau yn dystiolaeth o hynny.
Hoffwn ddiolch i'r cynrychiolwyr o Benaethiaid Safonau Masnach Cymru a SSE am eu cyflwyniadau diddorol. Mae'r wybodaeth a'r data y gallwn eu rhannu â Safonau Masnach yn amhrisiadwy o ran lleihau tanau mewn eiddo, a bydd y cyngor proffesiynol gan SSE yn gwella diogelwch diffoddwyr tân yn sylweddol, yn ogystal ag ymchwiliadau ein Swyddogion Ymchwilio i Danau.
Mae'r Fforwm Hyfforddiant ar Ymchwilio i Danau cyntaf hwn ar gyfer Cymru Gyfan yn nodi dechrau'r bennod nesaf ym maes ymchwilio i danau yng Nghymru, ac rwy'n edrych ymlaen yn eiddgar at weld sut y bydd digwyddiadau yn y dyfodol yn meithrin ein gallu o ran ymchwilio i danau ymhellach.”