Uned cadetiaid yn symud o Fiwmares i Borthaethwy
PostiwydBydd uned Cadetiaid Tân Biwmares yn adleoli i Borthaethwy fis nesaf.
Mae’r Cadetiaid Tân cenedlaethol yn sefydliad addysgol i bobl ifanc sydd yn cael ei redeg gan y Gwasanaeth Tân ac Achub mewn partneriaeth â Chyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân.
Nod y cynllun yw creu cymunedau mwy diogel a chadarn trwy ddatblygu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth yr unigolyn o’i gymuned a gwella sgiliau dinasyddiaeth.
Cynhaliwyd yr ymarfer olaf yng Ngorsaf Dân Biwmares yn gynharach yn y mis, a chafodd y cadetiaid a’u rhieni gyfle i ddiolch yn arbennig i’r Rheolwr Gwylfa Charles Brimecombe sydd wedi bod yn rhan ganolog o’r cynllun ers ei lansio ar yr orsaf 8 mlynedd yn ôl.
Mae Neil Upton, Rheolwr Gwylfa, Diogelwch Tân, yn egluro: " "Trwy’r uned Cadetiaid Tân, mae Charles wedi helpu i ddylanwadu ar fywydau cymaint o bobl ifanc a’u datblygu i fod yn oedolion llwyddiannus trwy roi sgiliau bywyd, hyder a chyfleoedd dysgu iddynt
"Roedd y cadetiaid eisiau diolch i Charles am ei waith caled a’i ymroddiad ac roeddent yn awyddus i’w anrhydeddu yn ystod y noson ymarfer olaf."
Dyma oedd gan Charles i’w ddweud ar ôl y noson ymarfer olaf ym Miwmares ar yr 20fed o Fawrth: "Mae'n meddwl y byd i mi fod y cadetiaid eisiau diolch i mi yn y modd hwn - mae gweithio gyda'r bobl ifanc yma wedi bod yn gymaint o ysbrydoliaeth i mi. Rydw i wedi mwynhau gweithio gyda'r cadetiaid yma- mae wedi bod yn bleser eu gweld nhw'n mynd ymlaen i ddatblygu eu bywydau a'u gyrfaoedd ar ôl cael sylfaen dda fel cadetiaid. Byddaf yn cadw mewn cysylltiad ac rwyf yn siŵr y bydd y gangen yn llewyrchus yn ei lleoliad newydd ym Mhorthaethwy."
Bydd yr uned Cadetiaid Tân ym Mhorthaethwy yn cyfarfod am y tro cyntaf Ddydd Mawrth y 10fed o Ebrill, a bydd y criw ar yr orsaf yn gweithio gyda’r cadetiaid ifanc yn ystod eu cyfarfodydd wythnosol.
Fe ychwanegodd Gwyn Williams, Rheolwr Gwylfa yng Ngorsaf Dân Porthaethwy: "Rydym yn edrych ymlaen at gael croesawu’r cadetiaid i Orsaf Dân Porthaethwy. Mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i bobl ifanc gymryd rhan yn y dasg o amddiffyn ein cymunedau a datblygu sgiliau personol megis sgiliau arweinyddiaeth, dysgu i weithio fel tîm a magu hyder, ac ennill cymwysterau ar yr un pryd.”
Mae’r rhaglen cadetiaid tân yn rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 11 a 18 ennill cymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol megis BTEC Lefel 2 ym maes Gwasanaethau Tân ac Achub yn y Gymuned a thystysgrifau cyrhaeddiad galwedigaethol mewn sawl maes.
Mae’r bobl ifanc yn dysgu nifer o sgiliau gan gynnwys gweithio fel tîm, datrys problemau a chyfathrebu ochr yn ochr â sgiliau bywyd i wella eu cyflogadwyedd.
Mae 8 uned yng Ngogledd Cymru, sef:
- Amlwch
- Porthaethwy
- Y Waun
- Conwy
- Llanfairfechan
- Prestatyn
- Pwllheli
- Rhuthun
Mae’r cadetiaid yn cwrdd unwaith yr wythnos ar ddiwrnod gwaith yn eu gorsaf dân leol.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch e-bost i nationalfirecadets@gwastan-gogcymru.org.uk