Tân yn y Friog yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg a diogelwch trydanol
PostiwydMae Swyddogion Tân yn atgoffa trigolion ynglŷn â phwysigrwydd larymau mwg a pheryglon tanau trydanol wedi i gwpl gael rhybudd o dân yn eu cartref yn y Friog yn gynnar y bore yma (Dydd Mercher Chwefror 14eg).
Cafodd criwiau o Ddolgellau, Aberdyfi ac Abermaw eu galw i dŷ pâr yn y Friog, Gwynedd am 06.06o’r gloch.
Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân brif bibell a dwy bibell dro, dau set o offer anadlu a chamera delweddu thermol i ddiffodd y tân.
Roedd y preswylwyr yn cysgu pan gychwynnodd y tân a chawsant eu deffro gan y larwm mwg.
Cychwynnodd y tân mewn ystafell wely yn yr eiddo ac achosodd ddifrod tân sylweddol i hanner yr eiddo.
Credir bod y tân trydanol wedi ei achosi gan fat gwres trydan.
Meddai Mike Owen o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:
“Mae’r digwyddiad yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg gweithredol – oni bai bod y larwm wedi eu deffro, fe allai’r canlyniadau fod wedi bod yn rhai difrodol iawn.
"Mae’n bwysig defnyddio cyfarpar yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr a gwirio eitemau trydanol a gwifrau rhag olion traul a difrod. Prynwch gyfarpar o siopau dibynadwy a chadwch eitemau trydanol ymhell o ddefnyddiau hylosg.
“Mae’r tân yma’n dangos pa mor beryglus ydi tanau trydanol – fe allant ddigwydd unrhyw bryd, yn unrhyw le. Ein cyngor yw byddwch mor barod â phosibl rhag tân, trwy wneud yn siŵr bod gynnych larymau mwg gweithredol yn eich cartref yn ogystal â llwybrau dianc clir er mwyn i chi a’ch teulu gael mynd allan mor gyflym â phosibl.
"Mae rhai camau syml y gallwch chi eu cymryd i helpu i atal tân trydanol yn eich cartref. Maent yn cynnwys:
- PEIDIWCH â gorlwytho socedi
- GWIRIWCH wifrau rhag arwyddion traul
- TYNNWCH blygiau cyfarpar pan nad ydych yn eu defnyddio
- CADWCH gyfarpar yn lân ac mewn cyflwr gweithredol da
- DATODWCH geblau Estyn yn llawn cyn eu defnyddio.
“Rhowch gynnig ar ein cyfrifiannell ‘ampau’ ar ein gwefan a’n tudalen Facebook – ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk – cewch wybod os ydych yn gorlwytho socedi a bydd yn eich helpu i gadw’n ddiogel rhag tân trydanol."