Amlygu pwysigrwydd larymau mwg wedi i ddyn ddianc o dân trydanol yn ei gartref yng Nghaergybi
Mae pwysigrwydd gosod larymau mwg gweithredol yn y cartref yn cael ei amlygu unwaith eto wedi i ddyn yn ei 80au gael ei rybuddio am dân yn ei gartref.
Galwyd criwiau o Gaergybi ac Amlwch i’r eiddo yn Llanfairynghornwy am 07.45o’r gloch y bore yma (Dydd Mawrth 27ain Chwefror).
Tywysodd y diffoddwyr tân y preswylydd, dyn yn ei 80au, i le diogel wedi iddo ddarganfod y tân a ffonio 999.
Roedd larymau mwg wedi cael eu gosod yn yr eiddo y llynedd gan ddiffoddwyr tân fel rhan o archwiliad diogel ac iach.
Cafodd y preswylydd driniaeth yn y fan a’r lle am effeithiau anadlu mwg.
Credir mai trydan a achosodd y tân – fe gychwynnodd mewn cwpwrdd yn y cyntedd a oedd yn cynnwys y gyflenwad drydan ddomestig ac fe ledaenodd i ofod yr atig gan achosi difrod tân i do’r eiddo.
Meddai Simon Bromley o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “ Mae larymau mwg yn achub bywydau. Mae’n hanfodol bod pobl yn cael rhybudd cynnar o dân – llwyddodd y dyn yma i ffonio 999 a llwyddodd y criwiau i’w gyrraedd a’i dywys i fan diogel cyn diffodd y tân.
“ Mae’r tân yma’n dangos pa mor beryglus ydi tanau trydanol – gallant ddigwydd unrhyw adeg, yn unrhyw le.
“Mae’n bwysig defnyddio cyfarpar trydanol yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gwirio offer trydanol a lidiau rhag ofn eu bod wedi eu difrodi neu dreulio. Prynwch hwy o siopau dibynadwy a chadwch gyfarpar sy’n cynhyrchu gwres ymhell o ddefnyddiau hylosg.
“Ein cyngor yw byddwch mor barod â phosibl rhag tân, trwy wneud yn siŵr bod gennych larymau mwg gweithredol yn eich cartref a llwybrau dianc clir a all eich galluogi chi a’ch teulu i fynd allan o’ch cartref mor gyflym â phosib.”
“Dyma gamau syml y gallwch chi eu cymryd i helpu i atal tân trydanol yn eich cartref. maent yn cynnwys y canlynol:
-PEIDIWCH â gorlwytho socedi
-GWIRIWCH wifrau’n rheolaidd rhag ofn eu bod wedi gwisgo neu dreulio
-TYNNWCH blygiau cyfarpar pan nad ydych yn eu defnyddio
- CADWCH gyfarpar yn lân ac mewn cyflwr gweithredol da
- DATOGWCH geblau estyn yn llawn cyn eu defnyddio
Rhowch gynnig ar ein cyfrifiannell ‘ampau’ ar ein gwefan ac ar Facebook – ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk – i weld a ydych chi’n gorlwytho socedi ac i’ch cadw’n ddiogel rhag tân trydanol.”