Tân mewn safle ailgylchu ger Glannau Dyfrdwy
PostiwydMae’r gwasanaethau brys wedi bod yn delio gyda digwyddiad dros nos yn ymwneud â thân mewn safle ailgylchu ger Glannau Dyfrdwy ac mae diffoddwyr tân yn dal i fod yn bresennol y bore yma (Dydd Sul 10fed Mawrth).
Anfonwyd peiriannau o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Swydd Gaer at y tân am 19.47 o’r gloch neithiwr (Dydd Gwener 9fed Mawrth).
Ar anterth y tân, roedd wyth injan dân yn bresennol yn y safle ailgylchu ar Factory Road, Sandycroft a oedd yn effeithio ar nifer uchel o ddefnyddiau ailgylchu gan gynnwys bwndeli o fatresi. Roedd y pwmp cyfaint uchel a’r uned meistroli digwyddiadau hefyd yn bresennol.
Mae diffoddwyr tân yn dal i fod yn bresennol yn rheoli a monitro’r tân gan ei fod yn dal i losgi dan oruchwyliaeth mewn mannau.
Roedd y defnydd ailgylchu yn wenfflam pan gyrhaeddodd y diffoddwyr tân ac roedd yn rhaid iddynt ddefnyddio prif bibell a dwy bibell dro i’w daclo.
Mae Factory Road yn dal i fod ar gau wrth i’r gwasanaethau brys barhau i ddelio gyda’r digwyddiad.