Staff y Gwasanaeth Tân ac Achub yn ymweld â Cherrigydrudion
PostiwydBydd staff diogelwch cymunedol o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ynghyd â chydweithwyr o Gartrefi Conwy yn mynd draw i ardal Cerrigydrudion ddydd Mercher yr 2il o Fai i roi cyngor i drigolion ar sut i gadw’n ddiogel yn y cartref.
Bydd yr aelodau staff, a fydd yn gwisgo lifrai ac yn cario cerdyn adnabod, yn ymweld â chartrefi yn ardal cod post LL21 i gwblhau archwiliadau ‘diogel ac iach’.
Fel rhan o’r gwasanaeth hwn, sydd yn rhad ac am ddim, bydd staff yn dod i’ch cartref i gwblhau asesiad diogelwch, ac os oes angen byddant yn gosod larymau mwg newydd yn rhad ac am ddim.
Meddai Kevin Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych: “Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth gyda staff o Gartrefi Conwy i gwblhau archwiliadau diogel ac iach yn yr ardal. Os nad ydych adref ar yr 2il o Fai a’ch bod yn byw yn ardal LL21 gallwch gofrestru am archwiliad diogel ac iach rhad ac am ddim drwy ffonio 01745 352 777.”