Tân mewn eiddo yn Wrecsam
PostiwydCafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw at dân mewn eiddo yn Crescent Close, Wrecsam am 12.21o’r gloch y prynhawn yma (Dydd Iau 19eg Ebrill). Anfonwyd dwy injan at y digwyddiad a defnyddiwyd offer anadlu a phibell dro i daclo’r tân. Yn anffodus bu farw dyn yn ystod y digwyddiad. Mae ymchwiliad ar y cyd rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru nawr ar y gweill. Nid oes rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd