Tân ar gyn safle Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych
PostiwydMae criwiau ar hyn o bryd yn delio â thân ar gyn safle Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych. Derbyniodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru alwad am 12.28pm heddiw (dydd Mercher 4ydd Ebrill).
Mae peiriannau tân o Ddinbych, Rhuthun, y Rhyl, Treffynnon, Abergele a’r Wyddgrug yno ynghyd â’r peiriant ag ysgol ac esgynlawr ac mae uned meistrioli digwyddiad yn bresennol hefyd.
Mae to’r adeilad ar dân gan adael yr adeilad mewn cyflwr anniogel. Bydd diffoddwyr tân yn aros ar y safle am beth amser er mwyn diffodd y tân.
Gofynnir i fodurwyr osgoi’r ardal i ganiatáu i’r gwasanaethau argyfwng ddelio â’r digwyddiad.