Hyrwyddo diogelwch tân yn Asda
PostiwydBydd staff o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig cyngor diogelwch tân ar gyfer y cartref i siopwyr yn Asda ddydd Sadwrn 28ain Ebrill.
Mae gwasanaethau tân yn darparu’r wybodaeth yma i gefnogi’r cydweithio rhwng Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân (NFCC) ac Asda. Mae’r archfarchnad yn awyddus i roi cyfle i’r gwasanaethau tân helpu i gadw pobl yn ddiogel. Maent wedi cynnig 100 o’u siopau i’n galluogi i rannu ein negeseuon diogelwch fel rhan o Ddiwrnod Ffocws ar Dân a Diogelwch Tân Cenedlaethol.
Fel rhan o Ddiwrnod Diogelwch Tân Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân (NFCC) ac Asda bydd staff o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn mynd draw i’r siopau Asda canlynol:
Y Fferi Isaf
Bangor
Llandudno
Hefyd, yn ogystal â chyngor diogelwch tân ar gyfer y cartref bydd cyfle i gael gwybodaeth a chyfarwyddyd ar rai o’r gwasanaethau sydd ar gael i chi a’ch teulu neu’ch ffrindiau gan eich gwasanaeth tân ac achub lleol.
Meddai Paul Scott, Pennaeth Diogelwch Cymunedol: “Rydym yn argymell bod gan bob cartref o leiaf un larwm mwg ar bob lefel. Gwnewch yn siŵr bod y larwm wedi ei osod mewn man lle gallwch ei glywed – hyd yn oed trwy ddrws caeedig.
“Profwch eich larwm bob wythnos. Fe all larwm mwg roi cyfle i chi fynd allan mewn achos o dân, ond dim ond os ydyw’n gweithio’n iawn.
“Cymrwch bwyll wrth goginio – mae tua hanner y tanau damweiniol sydd yn digwydd yn y cartref yn cychwyn yn y gegin. Peidiwch â gadael i ddim byd dynnu’ch sylw tra byddwch yn coginio a pheidiwch â choginio ar ôl yfed alcohol.”
Meddai Stewart Edgar Arweinydd Atal Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân (NFCC): “Mae’n wych bod Asda wedi rhoi cyfle i wasanaethau tân yn y DU gwrdd â’u cwsmeriaid a chynnig cyngor achub bywyd ar atal tanau. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn sicrhau bod help yn cael ei gynnig i’r bobl hynny sydd fwyaf mewn angen, ac y bydd ein presenoldeb yn eu hatgoffa y dylai atal tanau fod yn rhan o fywyd arferol – yn union fel piciad i’r archfarchnad.”