Dynes yn dianc o dân yn ei chartref ym Mae Colwyn
PostiwydMae Swyddog Tân yn amlygu pwysigrwydd cymryd pwyll gyda thanau agored a gosod a chynnal a chadw larymau mwg wedi i ddynes cael ei chario i fan diogel yn dilyn tân yn ei chartref ym Mae Colwyn y prynhawn yma.
Cafodd criwiau o Fae Colwyn Bay, Llandudno ac Abergele eu galw yn dilyn adroddiadau o dân yn ystafell fyw’r eiddo yn Sunningdale Avenue, Bae Colwyn am 12.23o’r gloch (Dydd Gwener 27ain Ebrill).
Roedd un o’r preswylwyr, dynes yn ei 80au yn eistedd yn yr ystafell fyw ar adeg y tân.
Galwodd 999 a chafodd ei chario i fan diogel gan y criwiau.
Credir bod y tân wedi ei achosi gan ddarn o lo a oedd wedi syrthio o’r tân agored.
Meddai Dave Roberts o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:
“Mae’r tân yma’n amlygu pwysigrwydd cymryd pwyll arbennig gyda thanau agored, a sicrhau bod gardiau tân yn cael eu defnyddio bob amser.
“Mae larymau mwg yn achub bywydau. Mae cael rhybudd cynnar o dân yn bwysig iawn – roedd y ddynes yn yr ystafell lle cychwynnodd y tân a llwyddodd i ffonio 999 ar unwaith – ond pe byddai’r tân wedi cychwyn mewn ystafell arall, byddai larymau mwg wedi ei rhybuddio am y tân.
“Ein cyngor ydi byddwch mor barod â phosibl rhag tân, drwy sicrhau’ch bod wedi gosod larymau mwg gweithredol yn eich cartref a bod gennych lwybrau dianc clir i’ch galluogi chi a’ch teulu i fynd allan o’ch cartref cyn gynted â phosibl."