Diweddariad ar y tân ym Methesda
PostiwydYn fuan ar ôl 10.40am bore ddoe, dydd Mawrth 5 Mehefin 2018, mynychodd y gwasanaethau brys dân mewn tŷ yn Ffordd Coetmor, Bethesda. Daethpwyd â'r tân dan reolaeth ond yn anffodus nid oedd y sawl oedd yn byw yn y tŷ, dyn lleol yn ei 50au, wedi goroesi a bu farw yn yr ysbyty. Mae ei berthynas agosaf yn ymwybodol.
Mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnal ymchwiliad ar y cyd i sefydlu achos y tân, ond ar hyn o bryd nid ydym yn credu ei fod yn amheus. Bydd rhan o'r ymchwiliad hwnnw'n cynnwys siarad ag aelodau o'r gymuned a allai fod wedi bod yn yr ardal ar y pryd ac felly byddwn yn gofyn os gallwch chi gynorthwyo gyda'r ymchwiliad hwn yna cysylltwch â'r Heddlu ar 101.