Tân yn Sandycroft
Postiwyd
Mae criwiau yn delio gyda thân yn Factory Road, Sandycroft ar hyn o bryd. Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw yno am 3.14pm heddiw (Dydd Mawrth 1af Mai).
Mae criwiau o Wrecsam, y Fflint, Bwcle, yr Wyddgrug, Llandudno a Glannau Dyfrdwy yn delio gyda’r tân sydd yn ymwneud â phlastigau.
Mae’r digwyddiad yn dal i fod yn weithredol.
Gofynnir i aelodau’r cyhoedd gadw draw o’r digwyddiad a chadw drysau a ffenestri ynghau yn yr ardal.
Mae’r ffordd rhwng Chemistry Lane a Factory Lane ar gau.