Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Amlygu’r cyngor ‘ewch allan, arhoswch allan’ yn dilyn cwest i dân yn Ninbych

Postiwyd

 

Cafodd y risg o fynd yn ôl i mewn i adeilad sydd ar dân ei amlygu yn dilyn cwest i’r tân trasig yn Ninbych y llynedd a laddodd dynes 54 mlwydd oed.

Daeth y cwest heddiw (11eg Mai) i’r casgliad bod ei marwolaeth yn ddamweiniol.

Bu farw Janet Jones ar ei ffordd i’r ysbyty ar ôl cael ei hachub gan ddiffoddwyr tân o dân yn ei fflat llawr cyntaf yn Nhan y Graig, Dinbych am 15.26 o’r gloch, Dydd Sadwrn 5ed Awst 2017.

Anfonwyd dwy injan dân o Lanelwy a’r Rhyl at y digwyddiad ac roedd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru hefyd yn bresennol. Ar ôl cyrraedd fe wynebodd y criwiau dân sylweddol ac roedd yn fflat yn llawn mwg.

Yn dilyn ymchwiliad i achos y tân gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru daethpwyd i’r casgliad bod y tân yn fwy na thebyg wedi ei achosi gan nam trydanol o ganlyniad i orlwytho socedi.

Dyma oedd gan yr Uwch Reolwr Diogelwch Cymunedol Kevin Roberts i’w ddweud wedi’r cwest: "Roedd hwn yn ddigwyddiad trasig ac rydym yn cydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau Janet."

"Yn anffodus, roedd nifer o ffactorau, ynghyd â’i bregusrwydd hi ei hun, a gyfrannodd tuag at ei marwolaeth.

"Rwyf yn hyderus ein bod ni fel Gwasanaeth wedi darparu’r lefel briodol o wasanaeth tân y prynhawn hwnnw mewn perthynas â’r risgiau rhagweladwy. Fodd bynnag ers y digwyddiad rydym wedi cynnal ymchwiliad trylwyr sydd wedi arwain at well dealltwriaeth o’r hyn a ddigwyddodd a hoffwn eich sicrhau ein bod eisoes wedi cyflwyno newidiadau i fynd i’r afael â nifer o’r materion dan sylw i leihau’r perygl y gall sefyllfa debyg ddigwydd eto.

"Yn ystod y flwyddyn cyn y digwyddiad trasig hwn, fe ddyfalbarhaodd staff o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar sawl achlysur i ymgysylltu gyda Janet i’w chadw’n ddiogel yn ei chartref. Fe all unrhyw un sydd yn dioddef tân yn y cartref gael eu llethu gan y mwg ac rydym yn annog pobl i fynd allan ac aros allan - peidiwch byth â cheisio taclo’r tân eich hun na mynd yn ôl i mewn i adeilad sydd ar dân.

"Fe all larwm mwg gweithredol roi rhybudd cynnar i chi ac os oes tân mae’n hanfodol bwysig eich bod yn mynd allan o’r adeilad - mae’n hanfodol bod gennych gynllun dianc yr ydych yn gyfarwydd ag ef."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen