Allech chi fod yn ddiffoddwr tân rhan amser? Diwrnodau Gweithredu Positif wedi eu hanelu at grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli
PostiwydNid oes y fath beth a diffoddwr tân arferol – dyna’r neges gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wrth iddo gyhoeddi diwrnod Gweithredu Positif i annog unigolion o grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli i ystyried gyrfa fel diffoddwr tân.
Mae diwrnodau Gweithredu Positif wedi eu hanelu at gael gweithlu sydd yn adlewyrchu’r gymuned amrywiol, a fydd yn helpu i ddarparu gwasanaeth tân o’r radd flaenaf i bobl yng Ngogledd Cymru.
Mae’r gwasanaeth tân ac achub yn gobeithio recriwtio diffoddwyr tân System Dyletswydd Rhan Amser (RDS)/Ar-alwad mewn sawl lleoliad i helpu i amddiffyn cymunedau ar draws y rhanbarth ac maes o law bydd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Llawn Amser ac mae’n awyddus i glywed gan unigolion brwdfrydig sydd â diddordeb mewn gyrfa heriol a boddhaol.
Mae Llinos Gutierrez Jones, Rheolwr Adnoddau Dynol yn egluro: “Ar hyn o bryd mae’r nifer o ferched, pobl o gefndiroedd ethnig du a lleiafrifol a grwpiau LGBT sy’n rhan o’n gweithlu lawer iawn yn is na’r hyn yr hoffem ni ei weld mewn gwasanaeth tân ac achub modern.
“Gyda hyn mewn golwg byddwn yn cynnal diwrnod gweithredu positif gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth ymysg grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli yn ein gweithlu.
“Nod y digwyddiadau hyn yw rhoi cyfle i bobl gael gwybod mwy am yrfa fel diffoddwr tân a’r broses ddethol.
“Os ydych chi’n perthyn i un o’r grwpiau hyn sydd wedi eu tangynrychioli ac yn byw yng Ngogledd Cymru ac os oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa fel diffoddwr tân RDS rydym yn awyddus i glywed gennych chi.”
CYMRWCH RAN- Nid oes y fath beth â Diffoddwr Tân Arferol
Cynhelir y Diwrnod Gweithredu Positif nesaf:
Dydd Gwener Mehefin 29 2018– Gorsaf Dân Glannau Dyfrdwy
- Dewch draw i sesiwn boreol neu brynhawn yn un o’n gorsafoedd tân
- Cwrdd â’n staff, gan gynnwys aelodau o’r tîm recriwtio a’r adran hyfforddi
- Cael mewnwelediad i’r Gwasanaeth Tân ac Achub fel cyflogwr a’r cyfleoedd sydd ar gael
- Cael gwybod mwy am y gwahanol rolau diffodd tân a’r broses recriwtio a dethol
- Gwisgo’r cit diffodd tân a chael blas ar y gofynion corfforol a safonau ffitrwydd
- Goresgyn unrhyw rwystrau
- Gwneud penderfyniad gwybodus ynghylch ymuno â’r Gwasanaeth
Ni fydd y digwyddiad Gweithredu Positif yn gwarantu swydd i’r rhai a fydd yn bresennol a bydd unrhyw gynigion cyflogaeth yn seiliedig ar deilyngdod yn unig.
Mae llefydd yn gyfyngedig ac felly mae’n rhaid archebu’ch lle ymlaen llaw – cysylltwch â’r adran AD ar 01745 535281 neu HRDesk@gwastan-gogcymru.org.uk i archebu lle.
Ceir rhagor o wybodaeth ar rôl y Diffoddwr Tân RDS yma