Tân mewn coleg
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar hyn o bryd yn delio gyda thân bach ar eiddo coleg yng Nghei Connah.
Cafodd yr adeiladau a effeithiwyd eu gwagio fel rhagofal.
Mae criwiau o Lannau Dyfrydwy, y Fflint a’r Wyddgrug yn bresennol.
Mae’r tân wedi ei ddiffodd ac mae’r criwiau yn chwilio’r adeilad yn drwyadl.
Rydym yn cynghori’r cyhoedd i aros i ffwrdd o’r ardal oherwydd lefelau traffig uchel a thagfeydd.