Diffoddwyr tân o’r Wyddgrug yn codi arian i elusennau lleol
Postiwyd
Aeth dwy elusen leol draw i Orsaf Dân yr Wyddgrug yr wythnos diwethaf i dderbyn cyfanswm o £1,500, y swm a godwyd yn ystod yr arddangosfa dân gwyllt a choelcerth flynyddol a gynhaliwyd ym mis Tachwedd.
Derbyniodd Hosbis Tŷ’r Eos, Wrecsam a Chymdeithas Gymuned Daniel Owen £750.00 yr un.
Meddai’r Rheolwr Gwylfa Dros Dro, Steven Hill: "Hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn rhan o’r gwaith i drefnu’r goelcerth y llynedd – roedd yn waith tîm yn ystyr y gair gyda phawb yn cydweithio i greu noson ragorol ar gyfer y gymuned gyfan.
"Ein blaenoriaeth ydi cadw trigolion yn ddiogel – ac mae mynd i arddangosfa sydd wedi cael ei threfnu yn ffordd dda o gadw’n ddiogel yn ystod y tymor tân gwyllt.
“Wrth gwrs, mae’n bwysig cadw diogelwch tân mewn cof drwy gydol y flwyddyn.
“Rydym yn falch o gael gweithio gyda thrigolion yng Ngogledd Cymru i’w cadw mor ddiogel â phosibl, ac mae gweld yr arian yn mynd yn ôl i’r gymuned yn gwneud yr holl waith trefnu a’r gwaith caled yn werth chweil.”