Tân eithin yng Ngharmel ger Caernarfon
PostiwydMae diffoddwyr tân wrthi'n delio gyda thân eithin mawr yng Ngharmel ger Caernarfon.
Mae'r Heddlu a staff awdurdod lleol wrthi'n gwagio tai cyfagos gan fod y tân yn filltir o hŷd yn ôl y sôn.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynghori trigolion i gadw drysau a ffenestri ynghau a chadw'n ddiogel.
Nid oes rhagor o wybodaeth ar hyd o bryd.