Tân yng Nghaernarfon
Postiwyd
Mae'r gwasanaethau brys mewn tân yng Nghaernarfon.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw at dân mewn cyfeiriad ar Stryd y Llyn am 08.49 o'r gloch fore heddiw (Dydd Llun 20fed Awst).
Cafodd chwe injan dân eu hanfon at y digwyddiad, ac mae'r diffoddwyr tân wedi defnyddio pedwar set o offer anadlu a dwy olwyn pibell dân i ddelio â'r tân.
Mae pobl yn y siopau gerllaw a thrigolion yn y fflatiau uwchben wedi gadael yn ddiogel.
Mae'r diffoddwyr wrthi'n huddo'r tân a byddan nhw'n aros yno am gryn amser.
Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i achos y tân.