Sicrhau gwasanaethau tân ac achub fforddiadwy – ymgynghoriad cyhoeddus
PostiwydMae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog pobl i ddweud eu dweud am fater sicrhau gwasanaethau tân ac achub fforddiadwy, cyn i gyllideb ddrafft 2019/20 gael ei gosod yn Rhagfyr 2018.
Mae’r broses o osod cyllideb fantoledig yn un arbennig o anodd i’r Awdurdod eleni. Mae pob cyngor sir yng Ngogledd Cymru yn cyfrannu tuag at gost darparu gwasanaethau tân ac achub – mae’r bwlch rhwng yr amcangyfrif o gostau’r Awdurdod yn 2019/20 a lefel y cyfraniadau ariannol gan y cynghorau yn 2018/19 wedi cyrraedd bron i £1.9 miliwn.
Ar adeg pryd mae pob gwasanaeth cyhoeddus yn wynebu penderfyniadau anodd, mae dyletswydd ar yr Awdurdod i sicrhau ei fod yn parhau mor effeithlon â phosibl. Ond mae dyletswydd arno hefyd i sicrhau ei fod yn gallu darparu gwasanaethau tân ac achub ar lefel, ac o ansawdd, y mae’r cyhoedd yn eu disgwyl, heb gyflwyno lefel annerbyniol o risg.
Fel yr esbonia’r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, Cadeirydd yr Awdurdod Tân ac Achub: “Nid yn unig ein bod ni’n wynebu cynnydd anochel yn y costau yn 2019/20, ond mae angen i ni hefyd wneud iawn am y ffaith fod y cyfraniadau gan y cynghorau sir dros y tair blynedd ddiwethaf wedi cael eu cadw’n isel gan ein bod ni wedi cymryd arian o’n cronfeydd wrth gefn.
“Er bod defnyddio cronfeydd wrth gefn fel hyn wedi gweithio’n dda yn y tymor byr, mae gwir gost darparu gwasanaethau wedi parhau i godi’n raddol ac rydyn ni’n gyndyn o wario ein cronfeydd wrth gefn rhag ofn na fydd gennym ni ddim i syrthio’n ôl arno.
“Y penderfyniad rŵan yw cael y cynnydd llawn yn ein cyllideb y flwyddyn nesaf, drwy gael bron i £19 miliwn o gynnydd yng nghyfraniad y cynghorau sir, neu gael swm llai o gynnydd yn y gyllideb a gweithredu arbedion costau fel nad oes perygl i ni redeg allan o arian ganol y flwyddyn.
“Bydd yn anodd gwneud unrhyw benderfyniad i leihau costau, ond ar ôl pwyso a mesur y dewisiadau ar gyfer sicrhau cyllideb fantoledig y flwyddyn nesaf, nid yw’r aelodau am geisio cael arbedion mawr oherwydd byddai lefel y risg yn rhy uchel ar hyn o bryd. Er nad ydyn ni wedi diystyru’r syniad o wneud arbedion, ni fyddai maint yr arbedion yn 2019/20 yn golygu cau gorsafoedd tân neu ddiswyddo diffoddwyr tân.”
Beth ydi eich barn chi? Ydych chi’n meddwl bod yr Awdurdod yn gwneud y dewisiadau iawn? Gall y cyhoedd ddysgu mwy am ffyrdd o gymryd rhan a darllen holl fanylion yr ymgynghoriad yn y fan yma, neu drwy ddilyn Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar Twitter neu Facebook.
I ddweud eich dweud – llenwch holiadur yr ymgynghoriad sydd ar gael yma. Rhaid anfon yr ymatebion erbyn y dyddiad cau, sef 2il Tachwedd 2018.
Gallwch hefyd wylio ein fideo yma.